Sgwrs gydag Abby Poulson
Rydym yn falch iawn o groesawu Abby Poulson i dîm Oriel Myrddin! Mae Abby yn ffotograffydd medrus, gydag angerdd am gysylltu â chymunedau ac archwilio tirweddau Cymru. Ar ôl gweithio gyda ni yn flaenorol ar Griw Celf, mae Abby yn dod â chreadigedd, profiad a brwdfrydedd i'w rôl newydd yn allgymorth cymunedol.
Croeso i'r tîm Abby! Ry'n ni'n falch iawn bo ti'n ymuno â ni! Alli di ddechrau drwy ddweud ychydig wrthon ni am dy gefndir fel ffotograffydd a beth ysbrydolodd ti i ddilyn y ffurf hon o gelf yn y lle cyntaf?
Diolch yn fawr! Pan o'n i tua 12 oed, dechreuais i ddiflasu pan oni ar deithiau cerdded gyda'r teulu, ond do'n i ddim yn cael aros gartre ar ben fy hunan eto. Wnaeth mam derbyn hen gamera dslr Dad-cu ac roedd hi eisiau dechrau defnyddio'r camera yn lle ei chamera bach point and shoot, ond doedd y camera heb gael ei ddefnyddio ers sbel. Er mwyn gwneud fi'n hapusach ar ein teithiau cerdded, ges i'r camera i roi cynnig arno a chyn hir, daeth tynnu lluniau yn obsesiwn. Dechreuodd y teulu alw fi'n 'wandering Abby' oherwydd bydden nhw'n troi rownd i edrych ble o'n i wedi mynd, a bydden i fetrau i ffwrdd yn tynnu lluniau rhyw blanhigyn, yn hapus yn byd bach fy hunan. Pan o'n i'n fy arddegau, dechreuais i bostio lluniau ar gyfrif instagram o'r enw 'wandering_abby' ac ro'n i'n dwlu bod yn rhan o'r gymuned ffotograffiaeth leol ar-lein a dangos tirweddau anhygoel Cymru. Yn yr ysgol, ro'n i'n grefftus iawn ac yn joio rhoi cynnig ar bob math o gelf. Roedd fy athro celf a'r teulu bob amser yn annog fi i barhau i greu a rhoi cynnig arni, a bydden i'n cuddio yng nghefn y dosbarth celf yn ystod unrhyw amser sbâr oedd gyda fi ac yn gweithio ar ddarnau celf. Do'n i ddim yn siŵr beth o'n i eisiau bod wrth dyfu fyny ac ro'n i'n teimlo'n ddryslyd iawn yn ystod y cyfnod Lefel A. Dywedodd yr athro celf wrtha i am Ysgol Gelf Caerfyrddin, a'r cwrs Sylfaen mewn Celf maen nhw'n cynnig yno. Yn ystod y cwrs hwn byddai gyda fi'r flwyddyn i edrych ar wahanol cyfryngau celf ac yna gallu dewis rhywbeth i arbenigo ynddo. Felly, ar ôl gwneud Lefel A rhoddais i gynnig ar hynny. Am y tro cyntaf, ges i lawer o weithdai ffotograffiaeth a dechreuais i weld y gallai ffotograffiaeth fod yn fwy na chlicio botwm yn unig. Ro'n i wedi dysgu beth oedd camera 35mm, gwneud printiau yn yr ystafell dywyll, gweld arddangosfeydd ffotograffiaeth mawr yn Llundain, a dysgu y gallen i hyd yn oed wneud gradd mewn Ffotograffiaeth. Roedd hyn i gyd yn newydd ac yn gwbl wefreiddiol i mi. Yna es i 'mlaen i astudio Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau yng Ngholeg Celf Abertawe a graddio yn 2020, ac mae'r gweddill yn hanes fel petai.
Rwy' ti wedi gweithio gyda ni o'r blaen ar Criw Celf, gan helpu pobl ifanc i archwilio a chysylltu â'u creadigrwydd. Shwd brofiad oedd hyn i ti? Oes gyda ti unrhyw atgofion o'r prosiect?
Roedd yn brofiad anhygoel, ac roedd yn teimlo'n arbennig gallu cysylltu â phobl ifanc talentog iawn Sir Gâr. Ro'n i'n ffodus i gymryd rhan yn Criw Celf pan o'n i'n ifancach, felly roedd hi'n fraint gallu hwyluso'r profiad hwnnw i artistiaid y dyfodol. Mae'r atgofion yn cynnwys gwthio whilber o ddeunyddiau celf o amgylch y caeau fel bod yr artistiaid ifanc yn gallu arsylwi a darlunio a gwneud siocled poeth iddyn nhw drwy gydol y dydd. Fy hoff ran i am y rhaglen oedd gallu gweld eu hyder a'u huchelgais yn tyfu drwy'r sesiynau misol, a'n bod ni i gyd wedi gweithio gyda'n gilydd i greu lle hapus a diogel i arbrofi. Roedd hi'n anrhydedd cael cymryd rhan.
Rwy' ti wedi bod yn fishi dros y flwyddyn ddiwethaf yn teithio yn Awstralia, shwd mae'r antur honno wedi dy siapio di a dy bersbectif di fel artist?
Treuliais i lot o amser mewn gwylltir twym, tawel yn y Kimberley's, Gogledd-orllewin Awstralia, sy'n wahanol iawn i'r dirwedd a'r hinsawdd fan hyn. Ces i fy ysbrydoli'n drwm gan y cymunedau brodorol a oedd yn byw yn rhanbarthau anghysbell Awstralia, a sut ro'n nhw'n defnyddio celf i gyfleu eu straeon a'u safbwyntiau am y tir. Hyd yn oed yng nghanol unman, byddai gan y gymuned ganolfan gelfyddydol o hyd. Roedd cysylltiad cryf rhwng y tir, bywyd gwyllt, ysbrydion a bodolaeth a phwysigrwydd rhannu hynny, oedd yn atgoffa fi o'r celf ro'n i wedi'i weld yn cael ei greu yng Nghymru. Ro'n i wrth fy modd yn ymweld â'r orielau a oedd yn cefnogi'r cymunedau hyn a gweld amrywiaeth mor enfawr o arddulliau paentio a chrefftau oedd yn cael eu creu. O brofi'r tir yn y Kimberley's, ro'n i hefyd yn gallu deall y llefydd roedd y paentiadau a'r gwrthrychau'n eu darlunio. Yn ystod rhai dyddiau o'm teithiau i, bydden i'n gyrru 8 awr a mwy heb basio drwy unrhyw dref neu bentref. Roedd hyn yn gwneud i fi werthfawrogi ein pocedi o gymunedau a phwy mor agos a chysylltiedig y'n ni i gyd. Mae cymaint o amrywiaeth yng Nghymru o ran tir, pobl a thalent ac mae'n rhywbeth dylid ei ddathlu a'i ddefnyddio.
Nawr bo' ti nôl yng Nghymru, beth sy'n cyffroi ti fwyaf am ymuno â OM a chymryd y rôl newydd hon mewn ymgysylltu â'r gynulleidfa?
Rwy'n teimlo'n gyffrous iawn i gysylltu â'r gymuned leol - mae'n gyfle prin i allu cymryd rhan yn greadigol â'r hyn sydd ar garreg ein drws fel person ifanc. I lawer o bobl ifanc, ry'm ni'n aml yn cael y syniad bod yn rhaid i ni symud i ffwrdd a gadael y wlad i fod yn llwyddiannus ac yn hapus. Rwy'n dwlu ar fy ardal, tir a'm diwylliant ac rwy'n edrych ymlaen at y posibilrwydd o allu hwyluso mwy o lefydd creadigol a chyfleoedd i bobl yn Sir Gâr a rhannu ychydig o lawenydd celf.
Sut wyt ti'n gweld dy gefndir fel ffotograffydd yn helpu i gysylltu â'r gymuned ry'm ni'n ei gwasanaethu a'i hysbrydoli?
Fel ffotograffydd ry'm ni'n cael ein hannog i arsylwi a gweld pethau'n wahanol ac arbrofi gyda gwahanol ffyrdd o gyfathrebu ein harddull a'n llais unigryw, i gyd yn y foment bresennol. Weithiau ry'm ni'n gweithio ar ein pen ein hunain gyda'n llais ein hunain yn unig, ac ar adegau eraill ry'm ni'n gweithio gydag eraill i gyflawni eu lleisiau nhw. Rwy'n teimlo bod hwn yn ddull da o weld, cysylltu a datblygu potensial creadigol ein cymunedau, a chysylltu â'r hyn sy'n bodoli eisoes, a rhannu'r gweledigaethau a'r syniadau sydd ar gael.
Rhaid bod dod gartref yn teimlo'n arbennig, beth wy ti'n mwynhau fwyaf am fod nôl yn Sir Gâr a chrwydro Cymru eto?
Rwy'n mwynhau ymweld â'r cestyll a cherdded i fyny'r bryniau eto. Rwy' wedi bod mâs gyda'r camera cwpl o weithiau, ond mae fy mysedd yn dal i fynd yn oer iawn! Efallai dylen i fod wedi dewis dod gartref yn y gwanwyn...
Oes unrhyw dirweddau, traddodiadau neu straeon lleol yma sy'n arbennig o ysbrydoledig ar gyfer dy waith?
Rwy'n cael fy ysbrydoli gan straeon am y tir a'i gysylltiad â'r amgylchedd, boed hynny'n chwedlonol, hanesyddol neu'n fwy cyfoes. Yn ystod y cyfnod clo ro'n i'n dwlu ar y calchfaen yn Sir Gâr a sylwais fod crib o galchfaen yn mynd yn groeslinol drwy'r sir. Wrth dyfu i fyny, clywson ni gymaint am y diwydiant glo, ond doeddwn i erioed wedi clywed dim am y calchfaen a gloddiwyd, ac sy'n dal i gael ei gloddio yma heddiw. Mae rhai o'r chwareli hyn wedi cael eu gwneud yn fwy diogel ac maen nhw'n warchodfeydd natur gwych ond yn draddodiadol efallai nad ydyn nhw'n cael eu hystyried yn llefydd 'hardd' i fynd am dro. Dechreuais eu harchwilio'n aml gyda'r camera, gan chwilio am olion o'r gorffennol, ond hefyd cofnodi'r fflora a'r ffawna oedd yn bodoli yno nawr. Gwnaeth y llefydd hyn helpu fi i greu delweddau rhyfedd, estron o'r tir lleol, a agorodd fy meddwl i syniadau newydd.
Beth mae creadigrwydd yn ei olygu i ti, a sut wyt ti'n dod ag e i dy fywyd bob dydd di?
Ystyr creadigrwydd i fi yw gallu byw ac amgylchynu fy hunan gyda gwrthrychau, pethau, artistiaid, ysgrifenwyr, cerddorion a llefydd sy'n ysbrydoli fi ac yn helpu fi i deimlo'n angerddol am fywyd. Pan fydda i'n teimlo'n angerddol ac yn ysbrydoledig, rwy' eisiau creu wedyn, felly mae'n ymwneud yn fwy â chael creadigrwydd wedi'i integreiddio i'm ffordd o fyw a meddwl, a bod yn agored i ddarganfod pethau newydd bob amser.
Dwed rhywbeth amdano ti efallai na fyddai pobl yn disgwyl ei ddysgu?
Yn 2022 cymerais ran mewn cystadleuaeth ffotograffiaeth o'r enw 'Yn Y Ffram' gafodd ei darlledu ar S4C. Enillais i ddim ond llwyddais i wireddu un o freuddwydion fy mhlentyndod o fod yn seren deledu a chael gwylio fy ngêm rygbi ryngwladol gyntaf yng Nghymru wrth dynnu ffotograffau o'r holl gyffro ar y cae.
Diolch am gymryd yr amser i sgwrsio gyda ni Abby – ti'n seren! Y cwestiwn olaf... Wrth i ti ddechrau'r bennod newydd hon gyda ni, oes unrhyw beth hoffet ti ddweud wrth y gymuned a'n cynulleidfa?
Licen i ddweud helo mawr cynnes, a fi'n gyffrous i gysylltu â chi i gyd. Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu rywbeth byddech chi'n lico siarad amdano, mae croeso ichi hala e-bost unrhyw bryd. Diolch yn fawr!
Mae Abby yn awyddus i chysylltu â grwpiau a sefydliadau lleol i ddysgu mwy am yr hyn sy'n digwydd yn y gymuned. Os hoffech gysylltu neu gyflwyno eich hun a'ch gwaith, gallwch chysylltu a Abby yn: APoulson@sirgar.gov.uk