Amdanom ni
Oriel Myrddin yw canolfan Sir Gaerfyrddin ar gyfer celf weledol, crefft a dylunio cyfoes.
Mae'n fan lle gallwn ni i gyd ymgysylltu â syniadau cyfoes drwy raglen celfyddydau gweledol a chymhwysol unigryw o ansawdd uchel sy'n amrywiol ei diwylliant.
Ni yw'r brif oriel celf a chrefft a gyllidir ag arian cyhoeddus ar gyfer rhanbarth De-orllewin Cymru a lleolir yr oriel mewn adeilad Fictoraidd rhestredig yng nghanol Caerfyrddin.
Mae Oriel Myrddin yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Tref Caerfyrddin.
Canllawiau cyflwyno ar gyfer artistiaid
Y Brif Oriel:
Mae Oriel Myrddin Gallery ar gau i'r cyhoedd ar hyn o bryd tra bod yr oriel yn cael ei hailddatblygu. Yn fod i ailagor 2025
Sylwer, ar ôl ailagor, rydym wedi ein rhaglennu'n llawn hyd at 2026.
Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer arddangosfa fel rhan o raglen y brif oriel, anfonwch eich cynnig at Catherine Spring drwy Dropbox.
Dylai eich cynnig gynnwys:
6 x delwedd ddiweddar o'ch gwaith
Dolenni cyswllt â'ch gwefan neu broffil ar-lein
Datganiad artist byr
Cynnig arddangosfa – dylai hwn gynnwys pam yr hoffech weithio gydag Oriel Myrddin
Staff yr Oriel
Rheolwr yr Oriel
Catherine Spring CMSpring@carmarthenshire.gov.uk
Marchnata, Hyrwyddo a Manwerthu
Rachel Vater RVater@carmarthenshire.gov.uk
Ymddiriedolaeth Oriel Myrddin
Mae Oriel Myrddin yn Ymddiriedolaeth Elusennol addysgol ac mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymddiriedolwr gwarchodol. Mae'n cael ei llywodraethu a'i chefnogi gan fwrdd ymddiriedolwyr. Mae'n derbyn cyllid refeniw gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Tref Caerfyrddin ac mae'n un o gleientiaid Portffolio Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru.
Mae Rheolwr yr Oriel yn arwain ar y cyfeiriad artistig, gyda chyfraniad aelodau'r tîm staff. Caiff y rhaglen o weithgareddau arfaethedig ei chyflwyno i'r Ymddiriedolwyr i gael sylwadau a chytundeb:
Cyng. Emlyn Schiavone (Cadeirydd): Cyngor Sir Gar, Cyngor Tref Caerfyrddin
Angharad Jones Leefe: Cyngor Tref Caerfyrddin
Cyng. Ken Lloyd: Cyngor Sir Gar, Cyngor Tref Caerfyrddin
Cyng. Carys Jones: Cyngor Sir Gar
Cyng. Alan Speake: Cyngor Sir Gar
Sally Moss: (Is-Gadeirydd) Annibynnol
Louise Morgan: Annibynnol
Neil Confrey: Annibynnol
Nigel Roberts: Annibynnol
Cyfle: Annibynnol
Rydym yn wastad chwilio am ymddiriedolwyr annibynnol i weithio gyda’r oriel i helpu i arwain y llywodraethu a chynghori ar gam nesaf ailddatblygiad Oriel Myrddin. Fel y gwyddoch efallai, rydym wrthi'n ailddatblygu'r oriel gyda chynlluniau cyffrous ar gyfer adeiladau a gweithrediadau estynedig.
Oes gennych chi unrhyw un o'r sgiliau hyn?
Profiad o reoli ac ailddatblygu adeiladau
Y gallu i gynrychioli'r gymuned leol
Cefndir celf neu grefft
Profiad uwch weithredwr mewn busnes neu fenter gymdeithasol
Profiad o godi arian ar gyfer di-elw
Cyfreithiwr
Os oes gennych chi, neu os ydych chi'n meddwl bod gennych chi sgiliau neu brofiad gwerthfawr eraill i'w cynnig, e-bostiwch ein Rheolwr Oriel, Catherine Spring.
Cefnogwch yr oriel
Helpwch ni i hyrwyddo'r celfyddydau gweledol yn Sir Gaerfyrddin.
Hoffech chi ddod yn gymwynaswr neu'n noddwr a'n helpu ni i barhau i hyrwyddo'r celfyddydau gweledol yng Nghaerfyrddin?
Os felly, siaradwch â Catherine Spring , Rheolwr yr Oriel, ar 01267 222775.
Mae rhoddion yn ein helpu i barhau i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer rhaglennu uchelgeisiol Oriel Myrddin addysg a gwaith cymunedol, sgyrsiau, digwyddiadau a phrosiectau, ac yn ein helpu i aros yn rhydd i'r cyhoedd.
Gallwch gyfrannu'n ddienw yn yr oriel. Os hoffech roi swm unwaith ac am byth mwy, cysylltwch â Catherine Spring yn uniongyrchol.
Diolch o galon i Neville Weekes
Estynnwn ein diolchgarwch dyfnaf i Neville Weekes am ei haelioni rhyfeddol a'i etifeddiaeth barhaus i'r oriel. Mae ei gyfraniadau wedi sicrhau bod celf yn parhau i ysbrydoli, addysgu a dod â llawenydd i'n cymuned am genedlaethau i ddod.
Adlewyrchir angerdd Neville dros y celfyddydau a'i gefnogaeth ddiwyro i Oriel Myrddin yn yr ystum rhyfeddol hwn, a fydd yn atseinio drwy'r arddangosfeydd, y rhaglenni a'r cyfleoedd creadigol a wneir yn bosibl gan ei etifeddiaeth.
Ar ran Ymddiriedolaeth a Staff Oriel Myrddin, diolch, Nev, am eich gweledigaeth, caredigrwydd a'ch effaith barhaol.