
Addysg
Gymuned
Mae Oriel Myrddin yn ymdrechu i ymgysylltu â chymaint o'r gymuned leol â phosibl. Ar gyfer plant oedran ysgol rydym yn darparu dosbarthiadau celf rheolaidd yn ystod y tymor yn ogystal â gweithdai a gweithgareddau penodol yn ystod y gwyliau. Ar gyfer oedolion rydym yn darparu dosbarthiadau meistr arbenigol ac yn cynnal gweithdai rheolaidd mewn cartrefi gofal lleol. Rydym wedi cael llwyddiant mawr wrth weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill fel Dr M'z, sef clwb ieuenctid o Gaerfyrddin, ac Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin ar y prosiect Drws i'r Dyffryn.
Rydym yn hoff iawn o weithio yn yr awyr agored, yn enwedig yn ystod misoedd cynhesach yr haf pan fyddwch chi'n gallu ymuno â ni oddi ar y safle wrth i ni fanteisio ar ein tirweddau hardd yng Nghymru. Yn ystod hanner olaf 2020, lansiwyd ein prosiect Atgofio Derw, sef prosiect plannu coed yn y gymuned i gofio'r rhai sydd wedi marw o Covid-19. Rydym yn falch iawn ein bod wedi cydweithio â'r bardd Mererid Hopwood a'r grŵp cerddorfaol, Ensemble Cymru. Gyda'n gilydd rydym wedi creu Synau Diflanedig, cyfres o bodlediadau Cymraeg yn archwilio synau ac awyrgylch natur.
Mewn ymateb i faterion cyfoes pwysig, mae Oriel Myrddin yn falch i gael ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer Hoelion Wyth Cymdeithas // Pillars of Society. Prosiect mewn partneriaeth ag Ysgol Gelf Caerfyrddin, sy'n cysylltu â'r gymdeithas yw hwn sy'n edrych ar gerfluniau a henebion Caerfyrddin ac yn eu hadolygu yn ogystal â'n hunaniaeth Gymreig a'n hanes trefedigaethol ein hunain.
Ysgolion a Cholegau
Mae Oriel Myrddin yn cynnig pecyn addysg cyffrous gan gynnwys ymweliadau tywys o amgylch ein lle arddangos ar gyfer ysgolion a cholegau, cyflwyniad i'r arddangosfa a'i chyd-destun, yn ogystal â chefndir yr artist. Mae amser yn cael ei neilltuo tua diwedd y sesiwn hefyd i ganiatáu i fyfyrwyr gyflwyno eu cwestiynau ac fe'u hanogir i gymryd rhan mewn beirniadaeth iach o'r gwaith.
Rydym hefyd yn cynnig gweithdy sy'n newid yn barhaus yn y stiwdio yn yr oriel, neu gellir dod i'ch ysgol neu'ch coleg i gyflwyno gweithdai.
Gall ysgolion hefyd ofyn am weithdy pwrpasol i helpu i ennyn diddordeb disgyblion mewn pwnc penodol.










