Mohamed Hassan
Rydyn ni’n falch iawn o rannu bod y ffotograffydd Mohamed Hassan wedi cael ei ddewis i greu gwaith newydd a fydd â chartref parhaol yn Oriel Myrddin ar ôl iddi ailagor yr hydref hwn. .
Cyn i Mohamed ddechrau ar ei gomisiwn, Llinynnau Perthyn, fe wnaethon ni sgwrsio ag ef am ei daith i fyd ffotograffiaeth, ei broses greadigol, a’r hyn mae’n gobeithio ei archwilio drwy’r prosiect hwn.
Croeso Mohamed! Ni mor falch i gael ti'n gweithio ar y comisiwn hwn. Alli di sôn bach wrthon ni am dy hunan a shwd est ti mewn i ffotograffiaeth?
Dechreues i gymryd diddordeb mewn ffotograffiaeth fel plentyn, wrth dyfu lan mewn cartref ble roedd fy nhad yn ffotograffydd brwd iawn gyda'i ystafell dywyll ei hunan. Cyflwynodd e fi i'r sinema a swyn dweud stori trwy luniau, ond nid oedd ffotograffiaeth yn rhywbeth y gallen i ei ddilyn ar y pryd oherwydd amgylchiadau teuluol. Dim ond ar ôl troi 30 oed y gwnes i gydio mewn camera o'r diwedd a dechrau ei archwilio drosof fy hunan.
I fi mae ffotograffiaeth yn rhywbeth personol iawn, mae'n ffordd o ateb cwestiynau am hunaniaeth, perthyn, a chof. Mae fy ngwaith i'n aml yn edrych ar fudo a diaspora, yn enwedig yng nghyd-destun Cymru a'm treftadaeth Eifftaidd. Fi'n hoffi'r mannau yn y canol ble mae diwylliannau yn cwrdd, ble mae gwahanol hanes yn dod at ei gilydd, a ble mae storïau personol a chyfunol yn siapio pwy ydyn ni.
Mae'r prosiect hwn, Llinynnau Perthyn, yn edrych mwy ar hyn, ac alla i ddim aros at ddod ag e'n fyw gyda'r cymunedau a'r tirluniau sy'n gwneud Cymru yn lle mor ddiddorol a chyffrous.
Mae dy daith dy hun wedi mynd â ti o Alexandria i gefn gwlad Cymru, shwd mae'r profiad hwnnw wedi siapio'r ffordd rwyt ti'n meddwl am hunaniaeth a pherthyn?
Mae symud o Alexandria i gefn gwlad Cymru wedi bod yn daith o newidiadau mawr. Rhwng y ddinas a chefn gwlad, rhwng lle oedd yn gyfarwydd iawn i fi ac un roedd rhaid i fi ddod i'w ddeall. Mae'r newid hyn wedi siapio shwd fi'n gweld hunaniaeth a pherthyn, nid fel pethau sy'n sefyll yn llonydd ond fel profiadau sy'n newid gydag amser, lle a pherthnasoedd.
Alli di sôn wrthon ni am dy broses? Ble rwyt ti'n dechrau gyda phrosiect newydd, a shwd wyt ti'n dod â phopeth at ei gilydd?
Mae fy mhroses bob amser yn dechrau gyda gwrando - gwrando ar bobl, llefydd, neu hyd yn oed y tawelwch yn y canol. Fi'n gweld ffotograffiaeth fel rhywbeth i'w wneud ar y cyd, yn enwedig wrth weithio ar themâu hunaniaeth a mudo. Mae prosiect newydd fel arfer yn dechrau gyda chwestiwn neu deimlad, rhywbeth heb ei ateb fi am ei archwilio'n weledol.
Yn weledol, fi'n cyfuno gwahanol bethau: portreadau sy'n dangos pwy yw person yn ei gynefin, tirluniau sy'n ennyn cof ac ystyr, a delweddau bywyd llonydd sy'n ddarluniau o berthyn. Fi'n aml yn gweithio gyda golau naturiol ac yn sylwi'n dawel ar bethau, a gadael iddyn nhw ddatblygu'n organig.
Mae cydweithio wedi bod yn rhan bwysig o dy waith ers peth amser. Shwd wyt ti'n mynd ati i weithio gyda phobl i greu delweddau, ac a oes rhywun rwyt ti'n ei bortreadu erioed wedi dylanwadu ar y ddelwedd derfynol mewn ffyrdd annisgwyl i ti?
Mae cydweithio yn hollbwysig yn fy ngwaith, yn enwedig wrth edrych ar themâu hunaniaeth a mudo. Fi'n gweld portreadau fel sgwrs, nid fel gweithred gennyf fi yn unig o gymryd llun. Mae'n golygu creu gofod ble mae'r person fi'n ei bortreadu yn teimlo ei fod yn cael ei weld, ei glywed, ac yn gallu dod â'i bresenoldeb ei hun i mewn i'r broses.
Fi'n mynd i bob sesiwn bortread gyda meddwl agored, ac yn aml yn dechrau gyda sgyrsiau hir cyn codi'r camera hyd yn oed. Rwyf am ddeall stori'r person, ei berthynas â lle, a shwd maen gweld ei hun. Mae hyn yn helpu i greu delwedd derfynol sy'n teimlo'n un 'go iawn' yn lle un sydd wedi'i gorfodi.
Mae'r teitl 'Llinynnau Perthyn' yn awgrymu sawl stori wedi'u plethu gyda'i gilydd. Wrth i'r prosiect ddod i siâp, pa fathau o ddelweddau neu eiliadau wyt ti'n meddwl fydd yn ganolog iddo?
Mae Llinynnau Perthyn yn ymwneud yn bennaf â natur gymhleth hunaniaeth, felly bydden i'n dychmygu y bydd y prosiect yn cael ei siapio gan ddelweddau sy'n adlewyrchu storïau personol a chyfunol - portreadau, tirluniau, a bywydau llonydd symbolaidd sy'n cyfleu symudiad, cof, a pherthyn.
Bydd tirluniau hefyd yn chwarae rôl allweddol, nid dim ond fel cefndiroedd ond fel cymeriadau eu hunain. Fi'n hoffi llefydd sy'n llawn hanes, llefydd o newid - ffiniau, arfordiroedd, llwybrau. Yn aml mae gan y llefydd hyn adlais o symud a mudo, gan siapio'r ffordd ni'n gweld ein hunain mewn perthynas â'r tir.
Rwyf am i'r prosiect deimlo'n haenog, fel tapestri o leisiau a phrofiadau yn dod at ei gilydd. Bydd rhai storïau yn feiddgar ac uniongyrchol, bydd eraill yn dawel a chynnil, ond byddan nhw i gyd yn cyfrannu at sgwrs ehangach am berthyn yn y Gymru gyfoes.
Mae dy waith eisoes yn cael ei gadw mewn rhai casgliadau anhygoel. Oes yna foment arbennig yn dy yrfa hyd yn hyn sy'n sefyll mas i ti?
Un foment swreal i fi oedd arddangos fy ngwaith ar bwys ffotograff gan Irving Penn.
Yn hydref 2014, pan es i ar daith i Fenis, es i i weld Resonance yn y Palazzo Grassi, a oedd yn edrych yn ôl ar waith a gyrfa anhygoel Penn. Ar y pryd roeddwn i wedi tyfu lan o gwmpas ffotograffiaeth, yn ddiweddar wedi cydio mewn camera eto, ac roeddwn i ym mlwyddyn gyntaf fy ngradd, yn dal i arbrofi a dod o hyd i fy llais.
Roedd yr arddangosfa honno'n agoriad llygad. Agorodd fy llygaid i'r gwir bŵer artistig sydd gan ddelweddau, yn enwedig gwneud printiau, roedd yn anhygoel cael gweld y gweithiau hynny'n agos.
Ar y pryd allen i byth fod wedi dychmygu, wyth mlynedd yn ddiweddarach, y bydden i'n ddigon ffodus i gael arddangos fy ngwaith ochr yn ochr â ffotograff gan Irving Penn. Mae'n anrhydedd enfawr.
A chyhoeddi fy llyfr ffotograffau cyntaf gyda 3 chyhoeddwr o Sbaen - Ediciones Posibles, Phree ac Editorial RM.
https://fundacionpsv.org/en/mohamed-hassan-wins-the-iv-star-photobook-dummy-award/
Ac yn olaf, beth sydd gen ti nesaf ar y gweill? Oes gen ti unrhyw freuddwydion am brosiectau neu lefydd yr hoffet ti dynnu lluniau ohonyn nhw?
Ar hyn o bryd, fi'n canolbwyntio ar Llinynnau Perthyn a gweld shwd mae'n datblygu, ond rydw i bob amser yn meddwl am beth sydd nesaf, un o fy mreuddwydion yw mynd i Japan a chreu corff cryf o waith gan fod gen i ddiddordeb mawr mewn celf a sinema Japaneaidd.