Comisiwn Oriel Myrddin: Galwad am Gynigion Gwaith Celf

Dyddiad Cau: 19 Ionawr 2025

Mae Oriel Myrddin yn gynhyrfus i gyhoeddi cyfle comisiwn yn benodol ar gyfer artistiaid mwyafrif byd-eang*. Rydym yn chwilio am gynigion ar gyfer gwaith celf gweledol newydd mewn unrhyw gyfrwng sy’n rhoi llwyfan i ddathlu cyfraniadau mwyafrif y byd yng Nghymru, gan gydnabod eich effaith ar hanes, diwylliant a hunaniaeth Cymru.

Mae Oriel Myrddin yn mynd trwy drawsnewidiad enfawr a bydd y comisiwn hwn yn rhan o’r casgliad parhaol pan fyddwn yn ail-agor yn 2025.

* Rydym yn defnyddio’r term mwyafrif byd-eang i gydnabod bod pobl o gefndiroedd ethnig Du, Asiaidd a phobl eraill nad ydynt yn wyn yn cynrychioli mwyafrif poblogaeth y byd, gan herio’r farn Ewro-ganolog eu bod yn lleiafrif. Rydym yn cydnabod bod terminoleg yn esblygu, ac er ein bod wedi dewis hwn fel term ymbarél, rydym wedi ymrwymo i barchu sut mae pob unigolyn yn dymuno cael ei adnabod.

Pwy ddylai wneud cais: 

Dylech wneud cais os ydych yn artist gweledol sy'n nodi eich bod yn rhan o'r mwyafrif byd-eang (Du, Asiaidd, Cynhenid, treftadaeth gymysg, a grwpiau ethnig eraill nad ydynt yn wyn). Rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan artistiaid sydd â chysylltiadau â Chymru neu os yw eich gwaith yn archwilio themâu diwylliant Cymreig, hunaniaeth, a’r groesffordd rhwng profiadau mwyafrif byd-eang o fewn Cymru.

Y Comisiwn:                 

  • Cyllideb: £10,000 (i gynnwys deunyddiau, amser, teithio)

  • Dylai'r comisiwn arwain at ddarn celf weledol newydd, a all fod mewn unrhyw gyfrwng gweledol. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, beintio, cerflunwaith, ffotograffiaeth, neu grefft (e.e., cerameg, tecstilau, gwaith metel, crefft coed).

    •   Os cewch eich comisiynu, fe'ch gwahoddir i fynd ar daith o amgylch y gwaith o ailddatblygu OM i drafod cartref priodol ar gyfer y comisiwn mewn sgwrs â'r tîm OM.

  • Bydd y gwaith gorffenedig yn cael ei arddangos yn barhaol yn Oriel Myrddin ar ôl ei ail-lansio yn 2025.

Llinell amser: 

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu os hoffech wybod mwy, mae croeso i chi anfon e-bost atom yn OMEducationQueries@sirgar.gov.uk gyda’r llinell bwnc: “Comisiwn Oriel Myrddin: Cwestiynau” byddwn yn ymdrechu i rannu pob cwestiwn (yn ddienw) ac atebion i'r cwestiynau hynny yn gyhoeddus.

Dyddiad cau ar gyfer ymholiadau ymgeisio: 20 Rhagfyr 2024

Cyhoeddi Holi ac Ateb: 6 Ionawr 2025

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 19 Ionawr 2025

Hysbysu'r ymgeisydd llwyddiannus: wythnos 27 Ionawr 2025

Cwblhau’r comisiwn: 30 Mai 2025 

Dyddiad gosod y gwaith: Ar ôl haf 2025

Sut i wneud cais: 

I wneud cais, cyflwynwch: 

  • Cynnig ysgrifenedig (uchafswm o 500 gair) yn amlinellu eich cysyniad ar gyfer y gwaith celf, sut mae’n cyd-fynd â’r thema o ddathlu pobl fwyafrifol byd-eang yng Nghymru, a’r effaith rydych chi’n bwriadu i’r gwaith ei chael.  Neu os yw'n well gennych gallwch anfon recordiad sain neu fideo o'r uchod o 12 munud neu lai. (Os ydych yn cyflwyno eich cais yn y fformat hwn, anfonwch e-bost at ddolen yn hytrach nag atodiad. Ni fydd ansawdd cynhyrchu eich recordiad yn dylanwadu ar eich cais, ond rhaid i'ch ymateb fod yn glywadwy ac yn glir i'r panel).

  • Datganiad artist a CV (uchafswm o 2 ochr A4). 

  • Portffolio (hyd at 10 delwedd) yn arddangos gweithiau perthnasol blaenorol. 

  • Dadansoddiad o'r gyllideb ar gyfer sut y bydd y comisiwn o £10,000 yn cael ei ddyrannu. (Dylai hyn gynnwys e.e. ffi, deunyddiau, treuliau ac ati)

Cyflwyno: 

Dylid cyflwyno ceisiadau i OMEducationQueries@sirgar.gov.uk gyda’r llinell bwnc: “Comisiwn Oriel Oriel Myrddin: Galwad am Gynigion Gwaith Celf” 

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cynnig, dylech dderbyn ymateb awtomataidd yn cadarnhau ein bod wedi derbyn eich e-bost ac yn eich annog i gwblhau holiadur Cyfle Cyfartal.

Proses Dethol: 

Bydd y cynigion yn cael eu hadolygu gan staff OM a phanel o guraduron a chynghorwyr, a bydd yr artist llwyddiannus yn cael ei hysbysu erbyn yr wythnos yn dechrau ar 27 Ionawr 2025. Nid oes cyfweliad, byddwn yn edrych ar eich cynnig yn unig. Bydd y dewis yn seiliedig ar wreiddioldeb ac ymagwedd newydd, perthnasedd i'r thema, a dichonoldeb y prosiect o fewn y gyllideb a'r amserlen a ddyrannwyd.

Bydd y panel yn asesu’r gwaith yn erbyn y meini prawf canlynol.

  • Gwreiddioldeb – ymagweddau newydd at y gwaith hwn

  • Perthnasedd – gwaith sy’n amlwg yn ymwneud â’r thema ac sy’n amlwg yn ymwneud â chyfraniadau pobl fwyafrifol byd-eang yng Nghymru, a’ch effaith ar hanes, diwylliant a hunaniaeth Cymru.

  • Dichonoldeb – dangoswch yn eich cais sut y gellir gwneud y gwaith o fewn yr amserlen a'r gyllideb o £10,000.

Y detholwyr yw:

Catherine Spring – Rheolwr Oriel Myrddin

Helga Henry – Ymgynghorydd Sector Diwylliannol

Cinzia Mutigli - Artist a Chyd-Gyfarwyddwr G39

Marva Jackson Lord - Collagist Digidol ac Ymgynghorydd Gwe

Edrychwn ymlaen yn fawr at dderbyn eich syniadau a'ch cynlluniau i wneud ychwanegiad parhaol i'n horiel a dathlu agoriad ein gofod newydd gwych.

Next
Next

Cyfle: