Mae Y Bwrdd // The Table, ein sioe aeaf, yn dychwelyd am ail flwyddyn i gynnig y gorau i chi o ran crefft a chelf cyfoes gan rai o bobl greadigol orau Cymru a'r Deyrnas Unedig.
Eleni mae Y Bwrdd yn edrych ar ddechreuadau newydd ac yn gobeithio cynnig seibiant ac ychydig o optimistiaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae'n arddangos cyfoeth o greadigrwydd o Gymru, ei ffiniau a'r Deyrnas Unedig gyfan ar ffurf cerameg, tecstilau, pren a phaent.