9 Mawrth – 12 Mehefin 2021
Mae Oriel Myrddin yn falch iawn o gyflwyno'r arddangosfa unigol
B R E A T H E gan yr artist o Orllewin Cymru, Helen Booth, ym mis Ionawr 2021.
Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn yr arddangosfa hon yn ymateb uniongyrchol i gyfnod preswyl Helen yng Nghanolfan Celfyddydau a Diwylliant Hafnarborg yng Ngwlad yr Iâ yn gynharach eleni. Gan dystio i'r hyn y mae Helen yn ei ddisgrifio fel 'tirwedd ddwyfol', bydd y gweithiau hyn yn dehongli Natur ar ei ffurf buraf gan ddefnyddio amrywiadau di-ben-draw'r dot unigol.
Mae'r paentiadau diweddar hyn yn canolbwyntio ar y dot unigol. Yn aml gan ddilyn llinellau digyswllt, y ffordd y maent yn tyrru gyda'i gilydd mewn blociau amorffaidd neu'n cael eu dinistrio gan ddwyster diferion paent. Mae'r gwaith yn archwilio ffordd fyrbwyll ac ailadroddus o greu marciau sy'n ystumiol ac yn adfyfyriol - mae llinellau syth a dynamig yn aml yn ymddangos ochr yn ochr â'r marciau tryloyw mwy cain. Gall y dotiau yng ngwaith Helen gynrychioli llawer o gysyniadau gwahanol - aer wedi'i ddal mewn rhew neu eira'n disgyn. Gall fod yn ddiwedd brawddeg neu'n atalnod mewn tirlun. Symbol o fywyd a darlun o farwolaeth – atalnod llawn.
Mae'r paent sydd wedi'i roi mewn modd rhydd yn ymateb yr un mor emosiynol i'r broses o baentio, felly hefyd y palet lliwiau cynnil, gan greu gwaith sy'n canolbwyntio ar y marciau a'r gwead heb fod yna liw i dynnu sylw. Mae'r ffordd hon o weithio yn hanfodol wrth ymdrechu i gyfleu ein hemosiynau a'n hymatebion i fywyd, i dirweddau, ac i'r elfennau a gaiff eu taflu atom.
Nododd Agnes Martin yn gryno yn ei darlith Beauty is a Mystery of Life yn 1989, "yn fynych credir y gellir rhoi popeth sy'n bodoli mewn geiriau. Ond mae ystod eang o'n hymatebion emosiynol na ellir eu rhoi mewn geiriau. Rydym mor gyfarwydd â'r ymatebion emosiynol hyn fel nad ydym yn ymwybodol ohonynt hyd nes eu bod yn cael eu cynrychioli mewn gwaith celf”.
Gallwch weld arddangosfa Helen Booth ar-lein yma.