Clwb Collage: Cyhydnos y Gwanwyn!
Ymunwch a ni am noson arall o greu collage, y tro hwn i ddathlu Cyhydnos y Gwanwyn! Wrth i’r tymhorau newid, byddwn ni’n archwilio themâu adnewyddiad, cydbwysedd a thrawsnewid drwy gelf, i gyd mewn awyrgylch hamddenol, croesawgar.
Byddwn yn gweithio gyda delweddau o gasgliadau lleol a chenedlaethol wedi'u hysbrydoli gan naratif gweledol y Gwanwyn. Rydym yn gyffrous i rannu bod El James a Matt Walker o Sir Gaerfyrddin yn cydweithio â ni ar gasglu delweddau. Bydd y ddau yn rhannu delweddau lleol, sydd ddim yn cael eu gweld yn aml, i dorri a phastio ar y noson.
Mae El James (hi) yn arddwriaeth, ffotograffydd a swyddog gwyddoniaeth yn Sir Gaerfyrddin yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Ar hyn o bryd mae El yn gweithio ar ddigideiddio'r Herbariwm, sydd yn archif fotanegol. Yn ei rôl mae'n ymgysylltu â'r cyhoedd gyda'r casgliad o 30,000 planhigion fel rhan o'r prosiect 'Plants Past, Present and Future' a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd El yn rhannu casgliad o sbesimenau planhigion wedi'u digido.
Mae Matt Walker (fo/ef) yn Gynorthwyydd Casgliadau yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin a bydd yn rhannu ffotograffau perthnasol o gasgliad CofGâr. Mae'r casgliad yn dal dros 50,000 o flynyddoedd o hanes Sir Gaerfyrddin, o'r Oes Iâ diwethaf hyd at heddiw felly rydym yn gyffrous i weld pa berlau o luniau fydd yn cael eu rhannu.
Dim angen archebu, jyst galwch heibio, mwynhewch ddiod neu damaid bach i fwyta a chymryd rhan mewn sesiwn greadigol gyda phobl o’r un anian.