Ar ddydd Sul 16 Mawrth 2-4 yp, yn yr Hen Gegin yn Ninefwr, ymunwch â ni i greu gwrach eich hun o’r coed. Gan ddefnyddio deunyddiau a gasglwyd o’r parcdir, cewch gyfle i wneud eich gwrach byped eich hun, wedi’ch ysbrydoli gan straeon tylwyth teg a llên gwerin mewn lleoliad cyfeillgar i deuluoedd.
Mae’r gweithdy hwn yn rhan o gyfres o sesiynau a gyflwynir gan Oriel Myrddin i’r gymuned ddathlu ailagor yr oriel sydd ar ddod, ac i archwilio themâu ein harddangosfa lansio Gwrach/Witch Clive Hicks-Jenkins - A Fairy Tale Retold. Bydd yr oriel yn ailagor yn yr hydref.
Mae’r gweithdy am ddim ac nid oes angen archebu lle. Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi yno!