Parêd Cragen Beca
Dydd Sul 1 Mai 2022
2yp (casglu o 1.30yp tu mas Oriel Myrddin)
Ymunwch â ni ddydd Sul Mai 1 am orymdaith i ddathlu Cragen Beca – prosiect gan yr artist Kathryn Campbell Dodd.
Ymunwch â ni i orymdeithio o Oriel Myrddin, ar hyd Stryd y Brenin ac i mewn i Sgwâr Neuadd y Dref. Bydd gwisgoedd hardd, ysgubau dawnsio, gyr o geffylau hobi, cragen enfawr, perfformiadau gan Qwerin + Dawnswyr Talog a llawer o sŵn!
Cydweithrediad rhwng yr artist Kathryn Campbell Dodd ac Oriel Myrddin, mae'r Pared Cragen Beca yn gyfle gwych i fod yn greadigol, gwisgo i fyny a chael hwyl yn dathlu digwyddiad diddorl mewn hanes Cymru.
Cragen Beca
Mae'r Pared Cragen Beca yn gydweithrediad â'r artist Kathryn Campbell Dodd a'i phrosiect ymchwil amlweddog - Cragen Beca.
Wedi'i henwi ar gyfer y gragen chwedlonol sydd bellach wedi'i lleoli yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, mae'r prosiect yn dilyn y Terfysgoedd Rebecca o'r canol y 19eg ganrif (1839 – 43) a gynhaliwyd yma yn Sir Gaerfyrddin. Mae arwyddlun y prosiect o'r gragen conch, a gynlluniwyd gan y ddeuawd Gymreig greadigol Ffŵligans, yn symbol o'r alwad i weithredu gan Rebecca a'i 'Merched'.
Yn cynnwys tecstilau, ffilm a pherfformiad, gallwch ddilyn ynghyd â holl gynnydd Cragen Beca yma.
Paratowch i orymdaith!
Gweithdy AM DDIM
Dydd Sadwrn 23 Ebrill
10.30 - 3.30
Yn Neuadd San Pedr, Sgwâr Nott, Caerfyrddin
Ymunwch â ni ar gyfer y gweithdy galw heibio hwn i baratoi ar gyfer parêd Cragen Beca ddydd Sul 1 Mai!
Gwnewch placardiau gyda Kathryn Campbell Dodd yr artist sy’n arwain y prosiect gwych hwn, gwnewch ffedogau protest gyda’r artist tecstilau Louise Bird a chreu penwisg gorymdaith wallgof gydag Emily Laurens o Oriel Myrddin.
Bydd te, cacen ac awyrgylch o baratoi parêd! Croeso i bawb!
Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Dosbarth Celf
Penwisg Cragen Beca
Mae Dosbarth Celf yn ôl gyda thiwtorial arbennig iawn ar thema Cragen Beca. Dysgwch sut i wneud penwisg wallgof a gwych eich hun ar gyfer Pared Cragen Beca ar ddydd Sul 1 Mai!!
Byddem wrth ein bodd yn gweld pa greadigaethau gwych rydych chi'n eu cynnig felly anfonwch eich lluniau at Emily Laurens EMLaurens@sirgar.gov.uk neu dagio ni ar gyfryngau cymdeithasol! #orielmyrddingallery
Trysorau Tecstil || Amgueddfa Sir Gâr
Gellir gweld y tair gwisg wreiddiol mae Kathryn wedi'u gwneud â llaw, fel rhan o arddangosfa arbennig iawn Trysorau Tecstil yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin o 14 Mai 2022
Arddangosfa o decstilau traddodiadol a grëwyd yn Sir Gâr yn dangos uchafbwyntiau'r casgliad. Mae'r casgliad yn cynnwys blancedi, sampleri a gwisgoedd Cymreig, gan roi cipolwg ar sut y cawsant eu gwneud, y deunyddiau a ddefnyddiwyd, a phwysigrwydd tecstilau i'r economi leol a'r amgylchedd.