Podlediadau

Oriel o Gwmpas

Cyfres o bodlediadau yw Oriel o Gwmpas, mewn cydweithrediad ag Ensemble Cymru ac Engage Cymru.

Lansiwyd y prosiect hwn gyda'n peilotiaid podlediad Cynradd ym mis Tachwedd 2020 a'i nod yw ennyn diddordeb pobl ifanc mewn ymwybyddiaeth ofalgar, cerddoriaeth ac ymatebion creadigol. Cymerwch eiliad i wrando ar synau natur fel dehonglir gan gerddorion clasurol ac yna gwnewch eich ymateb gan ddefnyddio'r gweithgareddau dan arweiniad.

Perlau Glaw

Ymunwch ag Oriel Myrddin am bodlediad cerddorol, lle gallwch wrando ac ymateb i gerddoriaeth a ysbrydolwyd gan y byd naturiol.

Cymerwch amser i ffwrdd am ychydig bach o luniad ystyriol gyda chyfansoddiad hyfryd ‘Perlau Glaw’ wedi’i ysbrydoli gan y glaw a’i chwarae ar y delyn gan Mared Emlyn.

Airstream

Ymunwch ag Oriel Myrddin am bodlediad cerddorol, lle gallwch wrando ac ymateb i gerddoriaeth a ysbrydolwyd gan y byd naturiol.

Cymerwch amser i ffwrdd am ychydig bach o luniad ystyriol gyda chyfansoddiad hyfryd ‘Airstream’ yn cael ei chwarae ar y delyn, y piano a’r clarinét.

The Lost Sounds

Croeso i gyfres Podlediad The Lost Sounds!

Mae'r podlediadau hyfryd hyn yn cynnwys cerddi gwreiddiol gan Mererid Hopwood a sgoriau cerddoriaeth wreiddiol gan Ensemble Cymru.

Mae’r gwaith hwn wedi’i ysbrydoli gan hen eiriau Cymraeg sy’n cyfleu synau natur. Ac os ydym ni, fel pobl, wedi llwyddo’n ddiofal i golli rhai geiriau ar hyd y ffordd, mae clustiau’r coed yn dal i’w clywed i gyd.
— Mererid Hopwood, Ionawr 21

Mae gennym hefyd set o daflenni gwaith ar gael fel ysbrydoliaeth ar gyfer cwestiynau a gweithgareddau y gallech eu gwneud mewn ymateb i'r podlediadau hyn

Gwrando, anadlu, ymlacio a mwynhau. 

Wedi'i wneud mewn cydweithrediad â Mererid Hopwood ac Ensemble Cymru gyda ariannu gan Ymddiriedolaeth Stadiwm y Mileniwm.

5 Ffordd at Lesiant

 Mae Oriel Myrddin yn falch iawn o gyflwyno ein cyfres nesaf o bodlediadau i blant - ‘Oriel Everywhere // Oriel O Gwmpas’.

Bydd 5 podlediad cyntaf y gyfres hon, a wnaed mewn cydweithrediad ag Ensemble Cymru ac a ariannwyd yn hael gan ArtFund, yr elusen gelf genedlaethol, yn archwilio '5 Ffordd at Lesiant' y GIG. Ymunwch â ni i wrando ar y podlediadau cerddorol hyn, a gaiff eu hysbrydoli gan y ffyrdd at lesiant i'ch helpu i gadw'n egnïol, cadw mewn cysylltiad, bod yn ystyriol, dysgu rhywbeth newydd a rhoi i eraill.

Allwn ni ddim aros i wrando gyda chi!

Creu eich arth 3D eich hun

Dilynwch ymlaen gydag Emily a dysgu sut i creu eich arth 3D eich hyn.

 Sŵn y Sir

Croeso i bodlediad Sŵn y Sir.

Yng nghyfres podlediadau Sŵn y Sir, byddwn yn ymweld â lleoedd  gwahanol o amgylch Sir Gaerfyrddin. Byddwn yn clywed y lleoedd hyn yn  cael eu disgrifio drwy gerddoriaeth.