Amdanom ni

Oriel Myrddin yw canolfan Sir Gaerfyrddin ar gyfer celf weledol, crefft a dylunio cyfoes.

Mae'n fan lle gallwn ni i gyd ymgysylltu â syniadau cyfoes drwy raglen celfyddydau gweledol a chymhwysol unigryw o ansawdd uchel sy'n amrywiol ei diwylliant.

Ni yw'r brif oriel celf a chrefft a gyllidir ag arian cyhoeddus ar gyfer rhanbarth De-orllewin Cymru a lleolir yr oriel mewn adeilad Fictoraidd rhestredig yng nghanol Caerfyrddin.

Mae Oriel Myrddin yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Tref Caerfyrddin.

Heather_Birnie_Elder_Trees_15.jpg
Winter-Show.jpg
Heather_Birnie_Oriel_Myrddin_Criw_Celf_40.jpg

Canllawiau cyflwyno ar gyfer artistiaid

Y Brif Oriel:

Mae Oriel Myrddin Gallery ar gau i'r cyhoedd ar hyn o bryd tra bod yr oriel yn cael ei hailddatblygu. Yn fod i ailagor 2024

Sylwer, ar ôl ailagor, rydym wedi ein rhaglennu'n llawn hyd at 2026.

Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer arddangosfa fel rhan o raglen y brif oriel, anfonwch eich cynnig at Catherine Spring drwy Dropbox.

Dylai eich cynnig gynnwys:

  • 6 x delwedd ddiweddar o'ch gwaith

  • Dolenni cyswllt â'ch gwefan neu broffil ar-lein

  • Datganiad artist byr

  • Cynnig arddangosfa – dylai hwn gynnwys pam yr hoffech weithio gydag Oriel Myrddin

Staff yr Oriel

Heather_Birnie_OMG_Portraits_B&W_01.jpg

Rheolwr yr Oriel

Catherine Spring CMSpring@carmarthenshire.gov.uk

Heather_Birnie_OMG_Portraits_B&W_19.jpg

Marchnata, Hyrwyddo a Manwerthu

Rachel Vater RVater@carmarthenshire.gov.uk

 

Ymddiriedolaeth Oriel Myrddin

Mae Oriel Myrddin yn Ymddiriedolaeth Elusennol addysgol ac mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymddiriedolwr gwarchodol. Mae'n cael ei llywodraethu a'i chefnogi gan fwrdd ymddiriedolwyr. Mae'n derbyn cyllid refeniw gan Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Tref Caerfyrddin ac mae'n un o gleientiaid Portffolio Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru. 

Mae Rheolwr yr Oriel yn arwain ar y cyfeiriad artistig, gyda chyfraniad aelodau'r tîm staff. Caiff y rhaglen o weithgareddau arfaethedig ei chyflwyno i'r Ymddiriedolwyr i gael sylwadau a chytundeb:

  • Cyng. Emlyn Schiavone (Cadeirydd): Cyngor Sir Gar, Cyngor Tref Caerfyrddin

  • Angharad Jones Leefe: Cyngor Tref Caerfyrddin

  • Cyng. Ken Lloyd: Cyngor Sir Gar, Cyngor Tref Caerfyrddin

  • Cyng. Carys Jones: Cyngor Sir Gar

  • Cyng. Alan Speake: Cyngor Sir Gar

  • Sally Moss: (Is-Gadeirydd) Annibynnol

  • Louise Morgan: Annibynnol

  • Neil Confrey: Annibynnol

  • Nigel Roberts: Annibynnol

  • Cyfle: Annibynnol

Rydym yn wastad chwilio am ymddiriedolwyr annibynnol i weithio gyda’r oriel i helpu i arwain y llywodraethu a chynghori ar gam nesaf ailddatblygiad Oriel Myrddin. Fel y gwyddoch efallai, rydym wrthi'n ailddatblygu'r oriel gyda chynlluniau cyffrous ar gyfer adeiladau a gweithrediadau estynedig.

Oes gennych chi unrhyw un o'r sgiliau hyn?

  • Profiad o reoli ac ailddatblygu adeiladau

  • Y gallu i gynrychioli'r gymuned leol

  • Cefndir celf neu grefft

  • Profiad uwch weithredwr mewn busnes neu fenter gymdeithasol

  • Profiad o godi arian ar gyfer di-elw

  • Cyfreithiwr

Os oes gennych chi, neu os ydych chi'n meddwl bod gennych chi sgiliau neu brofiad gwerthfawr eraill i'w cynnig, e-bostiwch ein Rheolwr Oriel, Catherine Spring.

Cefnogwch yr oriel

Helpwch ni i hyrwyddo'r celfyddydau gweledol yn Sir Gaerfyrddin.

Hoffech chi ddod yn gymwynaswr neu'n noddwr a'n helpu ni i barhau i hyrwyddo'r celfyddydau gweledol yng Nghaerfyrddin?

Os felly, siaradwch â Catherine Spring , Rheolwr yr Oriel, ar 01267 222775.

Mae rhoddion yn ein helpu i barhau i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer rhaglennu uchelgeisiol Oriel Myrddin addysg a gwaith cymunedol, sgyrsiau, digwyddiadau a phrosiectau, ac yn ein helpu i aros yn rhydd i'r cyhoedd.

Gallwch gyfrannu'n ddienw yn yr oriel. Os hoffech roi swm unwaith ac am byth mwy, cysylltwch â  Catherine Spring yn uniongyrchol.

DSC_0594.jpg
DSC_0416.jpg