oriel myrddin gallery pillars of society hoelion wyth cymdeithas

 #15 Hoelion Wyth Cymdeithas // Pillars of Society

Mae #15 Hoelion Wyth Cymdeithas // Pillars of Society yn brosiect cymunedol sy’n archwilio celf gyhoeddus yng Nghaerfyrddin ac sy’n gofyn pwy yw hoelion wyth ein cymdeithas ni? 

Mae’r prosiect yn ymateb i’r drafodaeth genedlaethol (a rhyngwladol) am gerfluniau, cofebion a hanes gwladychol. Mae’n cynnig cyfle i drafod hil, cydraddoldeb, amrywiaeth, hunaniaeth Gymreig a’r Gymraeg, a phrofiad Cymru fel gwladychwr a gwlad wedi’i gwladychu. 

Mae’r canlyniadau’n cynnwys cyfres o sgyrsiau cyhoeddus sydd ar gael ar sianel YouTube Oriel Myrddin (dolen), dehongliad ar-lein newydd o gerfluniau a chofebion Caerfyrddin a lleoedd eraill o ddiddordeb (isod), taith gerdded a map ategol a chardiau post cofroddion  ac ap realiti estynedig yn dangos celf gyhoeddus amgen a grëwyd gan fyfyrwyr cerflunio blwyddyn gyntaf o Ysgol Gelf Caerfyrddin.  

Mae’r mapiau a'r cardiau post am ddim ar gael yn Oriel Myrddin, Llyfrgell Caerfyrddin, Neuadd San Pedr ym Maes Nott a lleoliadau eraill yng Nghaerfyrddin. 

Clicio i lwytho i lawr yr ap am ffôn Android neu Apple.

 
 

Gwesty’r Llwyn Iorwg

Mae taith gerdded Pillars of Society yn cychwyn yn Oriel Myrddin ond dechrau stori'r prosiect yw Gwesty'r  Llwyn Iorwg rownd y gornel ar Stryd  Spillman. Yng Ngwesty’r Llwyn Iorwg yn 1819 taflodd Iolo Morganwg, hynafiaethwr, bardd, ffugiwr a chasglwr o Gymro, lond llaw o gerrig mân (y Meini’r Orsedd gwreiddiol) a rhoddodd fod i seremoni’r Orsedd. Daeth yr Orsedd, seremoni a wreiddiwyd mewn heddwch ac sy’n anrhydeddu’r tir, yn ganolbwynt seremonïol yr Eisteddfod ac fe’i defnyddir hyd heddiw. Mae cylch cerrig bychan yn nhir y gwesty a phlac glas i goffáu digwyddiad 1819. Ar y pryd roedd y gwesty yn eiddo i rieni William Nott, a thestun yr awdl, sef y gerdd a enillodd y gadair yn 1819, oedd Syr Thomas Picton a fu farw yn Waterloo yn 1815.  

Yn y gwesty ceir ffenestr liw gan John Petts a wnaed ar gyfer Eisteddfod 1974 ag arni arwyddair yr Orsedd Yn wyneb haul a llygad goleuni).  

Mae John Petts yn fwyaf adnabyddus fel yr arlunydd a greodd ffenestr ar gyfer eglwys yn Alabama a fomiwyd gan aelodau’r Ku Klux Klan yn 1963. Lladdwyd pedwar plentyn. Wrth siarad â’r BBC yn 1987, dywedodd Petts: "Ni chlywsent am Gymru erioed, nid oedd ganddynt unrhyw syniad ymhle yr oedd, ond cawsant wybod rhywbeth am y wlad fechan yn gyflym iawn, ac am sut roedd yn rhoi pwys mawr ar annibyniaeth a rhyddid”. Codwyd arian ar gyfer y ffenestr - delwedd o Iesu du o dan enfys o undod hiliol - trwy roddion cyhoeddus, rhodd gan bobl Cymru. 

Mae’r daith yn dilyn Heol Spilman sy’n rhedeg ar hyd yr amddiffynfeydd Rhufeinig hynafol i Oriel Myrddin ac Eglwys San Pedr.

Oriel Myrddin

Oriel Myrddin yw’r brif oriel celf a chrefft sy’n cael ei chyllido gan arian cyhoeddus ar gyfer de-orllewin Cymru. Fe’i lleolir mewn adeilad Fictoraidd rhestredig a gynlluniwyd gan y pensaer George Morgan, ac fe’i hariannwyd trwy danysgrifiadau cyhoeddus ac agorodd yn Ysgol Gelf Caerfyrddin yn 1892. Yn 1991 fe’i hagorwyd yn oriel. 

Mae’r daith yn mynd o’r Oriel ar hyd Heol y Brenin i Faes Nott. Y sgwâr oedd curiad calon Caerfyrddin ar un adeg, yn safle’r farchnad a chroes ganoloesol y dref. 

Eglwys San Pedr

Eglwys San Pedr, gyferbyn â'r oriel yn yr 8fed neu’r 9fed ganrif, ar Borth Gorllewinol y dref Rufeinig, a’r eglwys bresennol o’r 14eg ganrif yw’r adeilad hynaf yng Nghaerfyrddin. Ynddi ceir beddrod Rhys ap Thomas, yr honnir iddo ladd Richard III ym Mrwydr Bosworth. 

Castell Caerfyrddin

Yn Sgwâr Nott fe welwch Castell Caerfyrddin a godwyd ar ddechrau’r 1100oedd, ac fe’i cipiwyd a’i ddinistrio sawl gwaith cyn cael ei ailadeiladu â charreg yn ystod yr 1190oedd. Newidiodd y castell ddwylo fwy nag unwaith, ac fe’i cipiwyd gan Owain Glyndŵr yn 1405. Yn ystod Rhyfeloedd y Rhosod syrthiodd y castell i ddwylo William Herbert a bu farw tad Harri VII yn y castell yn 1456 ac, yn ystod y Rhyfel Cartref, fe’i cipiwyd gan luoedd y Senedd. Fe’i dymchwelwyd yn rhannol trwy orchymyn Oliver Cromwell ynghanol yr 1600oedd ac fe’i defnyddiwyd yn garchar Caerfyrddin tan yr 1920au. 

Gyferbyn â phorthdy Castell Caerfyrddin ceir cerflun o Syr William Nott.  

William Nott

Roedd William Nott (1782 – 1845) yn gadfridog ym myddin Prydain a aned yng Nghastell-nedd, a daeth ei rieni’n dafarnwyr yng Nghaerfyrddin yn 1794 ac aeth i India yn 1800. Chwaraeodd ran allweddol yn yr ymgyrch filwrol yng ngogledd India ac Afghanistan a alluogodd yr Ymerodraeth Brydeinig i gymryd rheolaeth. Bu farw miloedd lawer o bobl yn y brwydrau hyn, gan gynnwys 12,000 o bobl gyffredin yng ngaeaf 1842 yn unig yn ystod y cilio honedig o Kabul. Gwnaed cerflun 1849 gan Edward Davis allan o efydd o’r gynnau a gipiwyd ym mrwydr Maharajpore (lle y collodd 4000 o Indiaid eu bywydau) ac fe’i rhoddwyd gan yr East India Company. Mae tabled atodedig yn coffáu’r Dr Robert Ferrar (a sillefir weithiau’n Farrar), Esgob Tŷ Ddewi, a losgwyd wrth y stanc yn y sgwâr yn 1555. Ceir cofeb i Ferrar yn Eglwys San Pedr ac ysgrifennodd Ted Hughes gerdd "The Martyrdom of Bishop Farrar" yn 1957. 

Defnyddiwch ap AR i weld gwaith celf gan Finn Awen.

O Faes Nott aiff y daith â chi lawr i’r Clos Mawr. Gosodwyd plac Gwynfor Evans ar wal flaen Neuadd Sirol Caerfyrddin yn 2016 i gofnodi 50 mlynedd ers ethol Gwynfor Evans yn Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru. 

Gwynfor Evans, Y Clos Mawr

Roedd Gwynfor Evans (1912 – 2005) yn wleidydd, yn gyfreithiwr ac yn awdur o Gymru. Bu’n Llywydd Plaid Cymru am dri deg chwech o flynyddoedd ac ef oedd yr Aelod Seneddol cyntaf i gynrychioli’r blaid yn San Steffan, mewn dau gyfnod, o 1966 i 1970, ac eto rhwng 1974 ac 1979. Roedd Gwynfor Evans yn heddychwr ac yn gwrthwynebu cefnogaeth llywodraeth Prydain i lywodraeth Nigeria yn y rhyfel cartref yn erbyn Biafra, ac roedd hefyd yn gwrthwynebu Rhyfel Fiet-nam, gan brotestio y tu allan i faes awyr yr Unol Daleithiau yng Ngwlad Thai. Digwyddodd y ddau ryfel i raddau helaeth oherwydd gwladychiaeth a neo-wladychiaeth. Mae Gwynfor Evans fwyaf enwog am ei ymgyrch i sefydlu sianel deledu Gymraeg S4C, sydd erbyn hyn wedi symud ei phencadlys i Gaerfyrddin. 

Adeiladwyd Neuadd y Ddinas yn ystod y 1770au a gwelwyd llawer o dreialon hanesyddol, fel un terfysgwyr Beca . Y tu mewn mae paentiadau o'r Cadfridog Syr Thomas Picton gan Syr Martin Archer Shee a phortread o'r Cadfridog Syr William Nott gan Thomas Brigstocke. 

Y Clos Mawr

Mae’r Clos Mawr yn safle hefyd i gofeb i’r 33 o ddynion o Gaerfyrddin a fu farw yn rhyfel y Boer (1899 - 1902). Ymladdwyd y rhyfel hwn gan yr Ymerodraeth Brydeinig yn erbyn y Boeriaid wedi darganfod diemwntau yn Transvaal a’r Orange Free State. Roedd hwn yn rhyfel ciaidd, a lladdwyd mwy na 50,000 o bobl, gan gynnwys 12,000 o Affricanwyr yr oedd eu tir a’u hadnoddau yn destun ymrafael rhwng y lluoedd gwladychol. Dyma hefyd pryd ddyfeisiwyd gwersylloedd crynhoi gan Brydain ac y lladdwyd 300,000 o geffylau. 

Defnyddiwch ap AR i weld gwaith celf gan Carole Bodinger. 

O’r Neuadd Sirol mae’r daith yn mynd ar hyd Heol Awst ac i fyny at gofeb rhyfel Crimea. Mae’n mynd heibio safle’r Fynachlog Ffransisgaidd, a sefydlwyd yn y 13eg ganrif ac a ddiddymwyd yn 1538. Yma y claddwyd Rhys ap Thomas yn wreiddiol. Mae gwaith cloddio archeolegol helaeth wedi cadarnhau presenoldeb eglwys, cabidyldy a chloestr mawr, ynghyd â chloestr llai ac ysbyty. Darganfuwyd mwy na 200 o feddau yn y fynwent a 60 o gwmpas côr y brodyr. Mae’r rhain yn gorwedd erbyn hyn o dan Wilkinsons a’r maes parcio. 

Cofeb Rhyfel Crimea

Mae cofeb Rhyfel Crimea a godwyd yn 1858 yn obelisg o garreg gyda rheiliau anghyffredin o’i gwmpas, sef mysgedau croes gyda bidogau, a phaneli yn cynnwys enwau’r sawl a gollwyd. Un o gwmnïau’r gatrawd oedd y lluoedd Prydeinig cyntaf i lanio yn Crimea. Yn ogystal â Florence Nightingale, roedd y nyrs o Gymru Betsi Cadwaladr a Mary Seacole oedd o dras Brydeinig Jamaicaidd hefyd yn nyrsys allweddol bwysig yn ystod y rhyfel hwnnw, ond gan iddynt ddod o gefndiroedd cymdeithasol a diwylliannol gwahanol nid ydynt mor adnabyddus. 

Defnyddiwch ap AR i weld gwaith celf gan Sarah Arthur. 

O Heol Awst aiff y daith i mewn i’r parc. 

Parc Caerfyrddin

Agorodd Parc Caerfyrddin yn swyddogol yn 1900 gyda’i ganolbwynt – y felodrom. Mae’n 405.38 metr o hyd, a chredir mai dyma’r felodrom concrit awyr agored hynaf a ddefnyddiwyd yn ddi-dor yn y byd. 

Codwyd Meini’r Orsedd ym Mharc Caerfyrddin yn 1973 ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1974. Maent yn rhan o seremonïau derwyddol Gorsedd Yr Eisteddfod, ac mae meini’r Orsedd i’w gweld ledled Cymru i gofnodi lleoliad cynnal Eisteddfod Genedlaethol. Mae pob cylch yn cynnwys deuddeg o bileri carreg gyda charreg fawr, wastad, y Maen Llog, ynghanol y cylch a ddefnyddir yn llwyfan.  

Defnyddiwch ap AR i weld gwaith celf gan Hannah Moulder. 

Mae’r daith yn gadael y parc ac yn mynd ymlaen i Heol Picton. 

Cofeb Picton

Cofeb Picton, obelisg yn coffáu Syr Thomas Picton (1758 – 1815), swyddog y fyddin a pherchennog a masnachwr caethweision o Gymro a llywodraethwr trefedigaethol Trinidad (1797 – 1803), lle y’i cofir am boenydio llawer o bobl yn ddidostur, gan gynnwys plentyn. Bu farw Picton ym Mrwydr Waterloo. Dymchwelwyd cofeb gynharach a godwyd yn yr 1820au yn 1846. Codwyd y gofeb 24.2m o uchder bresennol rhwng 1847 ac 1849 ac fe’i hailadeiladwyd yn rhannol yn 1988. Mae’r gofeb bresennol yn ddadleuol oherwydd gweithredoedd Picton yn Trinidad, ac mae bron i 20,000 o bobl wedi llofnodi deiseb yn galw am ei symud oddi yno, ac mae cynlluniau i symud cerflun o Picton o Oriel Arwyr Cymru yn Neuadd y Ddinas Caerdydd. Fodd bynnag, nid oedd llawer o drigolion am weld y gofeb yn cael ei symud. Mae plac a osodwyd ar y gofeb yn coffáu Terfysgoedd Beca 1839 - 1843. 

Defnyddiwch ap AR i weld gwaith celf gan Thomas Bellingham.

Clicio i lwytho i lawr yr ap am ffôn Android neu Apple.