Sgwrs yn yr Oriel gan Yr Athro Moira Vincentelli

Y Casgliad Seramig – Prifysgol Aberystwyth: Hanesion Hen a Newydd

Sgwrs yn yr oriel mewn cydweithrediad â’r U3A

Mynediad am ddim

Sgwrs yn Llyfrgell Caerfyrddin gyda sudd ffrwythau twym a mins peis yn Oriel Myrddin Gallery i ddilyn.

Mae Moira Vincentelli yn Athro Emeritws Hanes Celf ac yn Guradur Ymgynghorol Serameg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dros ddeugain mlynedd mae wedi datblygu’r prif gasgliad serameg ac archif yn Aberystwyth. Mae ei hymchwil bersonol yn canolbwyntio ar rywedd a serameg gyda diddordeb penodol mewn Serameg y Byd. Mae ei gwaith cyhoeddedig yn cynnwys Women and Ceramics: Gendered Vessels (MUP, 2000) and Women Potters: Transforming Traditions (A&C Black, 2003) yn ogystal â nifer o erthyglau a thraethodau catalog.

 

Rhan o rhaglen 50+ Oriel Myrddin Gallery

Os nad ydych yn aelod o’r U3A dewch i ddarganfod mwy amdano.

 

Llun: Trwy garedigrwydd Ceramic Review, ffotografydd: Layton Thompson

Gadael sylw

*

Prosiectau Oddi ar y Safle

O gwmpas y lle

Cofrestrwch ar gyfer y newyddion diweddaraf