Sgwrs Oriel gyda Steffan Jones-Hughes: Llwyddo i guradu’r amhosibl

Llwyddo i guradu’r amhosibl

11am – 12 ac 2pm – 3pm

Am ddim

Steffan Jones-Hughes, Cyfarwyddwr, Oriel Davies yn trafod proses weithio a chelf Gareth Griffith.

Yn gweithio ar draws meysydd cerflunio a phaentio, mae Gareth Griffith yn defnyddio deunyddiau bob dydd a gwrthrychau hapgael, plastigau diwydiannol a detritws glan môr i greu gweithiau sy’n farddol ac yn chwareus, yn rhyfeddol ac yn gyfarwydd, yn alarus ac yn galonogol.

Daeth yr arddangosfa at ei gilydd dros y ddwy flynedd diwethaf ac mae’n arddangosfa bartner i’r arddangosfa gyfredol o waith newydd yn Oriel Davies, Y Drenewydd 18 Ionawr – 1 Ebrill 2020.

 

Prosiectau Oddi ar y Safle

O gwmpas y lle

Digwyddiadau Arbennig

Enamlo gyda Julia Griffiths Jones

Cofrestrwch ar gyfer y newyddion diweddaraf