Seren Wen

Seren Wen (Bright Star) yw ein harddangosfa yng ngaeaf 2014. Bydd yn cynnwys gwaith gan fwy nag ugain o sêr o fyd y Celfyddydau Cymhwysol a Chain yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig. Dyma gyfle i ddod o hyd i anrhegion Nadolig cain wedi’u dethol a’u cyflwyno’n arbennig yn yr oriel, ynghyd â gwaith crefft, anrhegion a chardiau o safon yn siop yr oriel.

Bydd y Comisiwn i Artist ar gyfer Coeden Nadolig yr ydym yn ei roi eleni, yn waith ar ffurf ffilm fer gan y ffotograffydd Kate Dunwell sy’n rhoi sylw i’r blanhigfa Coed Nadolig yn ei chartref yn Sir Benfro.

Ymhlith y gwneuthurwyr a’r artistiaid bydd: Peter Bodenham, Ivan Black, Lorna Boyle, Toril Brancher, Huw Davies, Cornelius van Dop, Regina Heinz, Fionna Hesketh, Buddug Wyn Humphreys, Michelle Holmes, Florence Jackson, Caitlin Jenkins, Gilly Langton, Lindean Mill Glass, Sarah Lindsay, Polly Lyster, Ptolomy Mann, Anne Morgan, Sian O’Doherty, Janine Roper, Christian Ryan, Paula Rylatt, Annie Sherburne, Jill Stewart, Tim Stokes, Emrys Williams, Rose Wood.

 

Am fwy o wybodaeth

Gadael sylw

*

Prosiectau Oddi ar y Safle

O gwmpas y lle

Digwyddiadau Arbennig

Coed Hynaf

Cofrestrwch ar gyfer y newyddion diweddaraf