Rhaglen Ddigwyddiadau

Dydd Iau 1 Chwefror 2018 6-7:30pm

Clwb Llyfrau Oriel Myrddin

Chroma: A Book of Colour gan Derek Jarman

Ymunwch â ni am drafodaeth gyfeillgar a arweinir gan Kirsten Hinks Knight.

Mynediad am ddim, dim angen archebu lle, darperir te a chacen.

 

Dydd Sadwrn 3 Chwefror 2018 2pm

Sgwrs yn yr Oriel

The Camaraderie of the Village: gan Jonathan Powell, arlunydd a Chyfarwyddwr Oriel Elysium yn Abertawe

Sgwrs am geisio creu llais a llwyfan ar gyfer arlunio cyfoes yng Nghymru.

Mynediad am ddim, does dim angen archebu lle.

 

Dydd Iau 8 Mawrth 2018 11am

Sgwrs yn yr Oriel mewn cydweithrediad â Phrifysgol y Drydedd Oes.

Roger Cecil: A Secret Artist gan Dr Peter Wakelin

Bywyd a gwaith Roger Cecil (1942-2015), sydd wedi’i ddisgrifio fel un o arlunwyr haniaethol mwyaf ei genhedlaeth, ond yn yn ystod ei oes prin oedd yn hysbys y tu allan i gylch bychan o gasglwyr a chyd-arlunwyr. Curadur annibynnol yw Dr Peter Wakelin, sydd wedi ysgrifennu bywgraffiad o Roger Cecil.

Mynediad am ddim, does dim angen archebu lle.

 

Dydd Sadwrn 17 Mawrth 2018 2pm

Sgwrs yn yr Oriel

Sgwrs rhwng Pedwar Arlunydd Cyfoes

Ymunwch â’r pedwar arlunydd o’n harddangosfa Roger Cecil + 4 Arlunydd Cyfoes er mwyn clywed am eu gwaith a’u hymatebion i waith y diweddar Roger Cecil.

Mynediad am ddim, does dim angen archebu lle.

 


Gwneuthurwr Dan Sylw: Justine Allison
13 Ionawr – 17 Mawrth 2018

Dangosir mewn cydweithrediad ag Oriel Mission, Abertawe ac mae arddangosfa Justine Allison, sef Shifting Lines, yn rhan o gyfres The Language of Clay, sef Arddangosfa Deithiol Genedlaethol Oriel Mission sydd wedi’i churadu gan Ceri Jones.

Justine Allison ‘Shifting Lines’

The Language of Clay: Part Two

13 Ionawr– 4 Mawrth 2018

Oriel Mission, Maritime Place, Gloucester Place, Abertawe SA1 1TY

Mwy of gwybodaeth

 

Helen Booth: Oriel Myrddin Exchange

Mae Oriel Mission yn Abertawe yn arddangos paentiad a chasgliad o brintiau gan yr artist Helen Booth oll ar werth yn nhw’n siop, un o’r pedwar arlunydd cyfoes yn ein harddangosfa bresennol – Roger Cecil + 4 Arlunydd Cyfoes.

Mwy of gwybodaeth

Oriel Mission, Maritime Place, Gloucester Place, Abertawe SA1 1TY

 

Gadael sylw

*

Prosiectau Oddi ar y Safle

O gwmpas y lle

Digwyddiadau Arbennig

Cystadleuaeth: Straeon y Pysgotwyr

Cofrestrwch ar gyfer y newyddion diweddaraf