Noson Flasu OMG!

Fe’ch gwahoddir i ymuno â ni a rhai o gynhyrchwyr ac arlwywyr bwyd lleol bychain gorau Sir Gaerfyrddin am barti Nadolig.

Gallwch flasu a phrynu gwin o Wright’s Food Emporium, jin gan Jin Talog a siocled gan NOMNOM.

Y 70au fydd thema’r noson ac efallai y gwelwch y staff yn gwisgo dillad blodeuog ac ambell i dei trawiadol… byddwn hefyd yn chwarae recordiau o’r 70au gyda Jacob Whittaker – dewch i ddewis ychydig o ganeuon o’i gasgliad neu dewch â recordiau finyl eich hun o’r 70au i’w rhoi ar y deciau.

Gallwch ddod mewn gwisg ffansi os ydych yn dymuno (fel Margo, Bowie neu Bodie a Doyle) – bydd Ysgol Gelf Caerfyrddin yma gyda bwth lluniau’r 70au i gael llun ohonoch ar gof a chadw!

Gadael sylw

*

Prosiectau Oddi ar y Safle

O gwmpas y lle

Cofrestrwch ar gyfer y newyddion diweddaraf