LabCerflunwaith – Sesiynau ar ôl ysgol 12-15 oed

Beth yw LabCerflunwaith?

Cyfres o weithdai misol yw LabCerflunwaith sy’n edrych yn agos ar berthnasedd cerflunio a’i rinweddau tri dimensiwn. Byddwch yn arbrofi gyda deunyddiau a phrosesau newydd yn ein stiwdio gyda mynediad at sgiliau ac adnoddau i gefnogi eich datblygiad artistig personol. Bydd yr artist Lisa Evans yn annog cyfranogwyr i wneud, meddwl a siarad am gerflunwaith mewn cyd-destunau hanesyddol a chyfoes gan gyfeirio at artistiaid allweddol yn eu maes.

Bydd y gweithdy olaf yn cael ei gynnal yn Ysgol Gelf Caerfyrddin i gynhyrchu cerflun; gan ystyried deunydd, graddfa a’r lleoliad.

LabCerflunwaith sesiynau ar ôl ysgol: Dydd Mercher 15 Ionawr, 12 Chwefror, 8 Mawrth ar ôl ysgol 4.30 – 6pm

Diwrnod Cerflunwaith: Dydd Llun 6 Ebrill 10am – 4pm – Ysgol Gelf Caerfyrddin

Sesiynau ar ôl ysgol £32 y tymor

Diwrnod Cerflunwaith £40

Y ddau am £65

Rhaid archebu lle ymlaen llaw: https://www.eventbrite.co.uk/e/labcerflunwaith-sesiynau-ar-ol-ysgol-sculpturelab-after-school-sessions-tickets-82792788459

 

Prosiectau Oddi ar y Safle

O gwmpas y lle

Cofrestrwch ar gyfer y newyddion diweddaraf