Gwneuthurwr Dan Sylw: Ingrid Murphy

Ein Gwneuthurwr Dan Sylw yn Chwefror a Mawrth 2019 yw’r Ingrid Murphy.

Mae Ingrid Murphy yn chwarae gyda chonfensiynau gwaith cerameg. Mae ei gweithiau’n gwahodd profiad a rennir yn hytrach na myfyrio esthetig pur’.Martina Margetts.

Mae cysylltedd yn hollbwysig i Ingrid Murphy, rhwng pobl a lleoedd ac ar draws amser. Mae ei hymchwiliadau’n ein pryfocio ac yn ein synnu wrth iddi gyfuno prosesau cerameg traddodiadol â thechnolegau creadigol. Boed yr olygfa o’r tu mewn i debot neu synau strydoedd Jaipur, mae ei darnau’n ein cysylltu â gwahanol bersbectifau a storïau. Helaethiad ffraeth o ieithoedd a phriodweddau clai yw Gweledig ac Anweledig. Ceri Jones, curadur y gyfres

Mae gweithiau dethol y Gwneuthurwyr Dan Sylw yn cael eu dangos ar y cyd ag Oriel Mission, Abertawe – mae arddangosfa unigol Ingrid Murphy Gweledig ac Anweledig yn rhan o gyfres Iaith Clai: Arddangosfa Deithiol Cenedlaethol Oriel Mission.

Amserlen Deithio:

Canolfan Grefft Rhuthun                                     24 Tachwedd 2018 – 27 Ionawr 2019

Oriel Mission, Abertawe                                      02 Chwefror – 23 Mawrth 2019

Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange     30 Mawrth – 18 Mai 2019

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth             25 Mai – diwedd Gorffennaf 2019

 

Bydd y gwaith ar werth. Drwy brynu gwaith celf, rydych yn cefnogi arlunydd/artist unigol. Rydych hefyd yn helpu Oriel Myrddin i fod yn fwy cynaliadwy yn ariannol. Mae Collectorplan (cynllun prynu di-log) ar gael.

Gadael sylw

*

Prosiectau Oddi ar y Safle

O gwmpas y lle

Cofrestrwch ar gyfer y newyddion diweddaraf