Gwneuthurwr Dan Sylw: Rose Teleri

Ein Gwneuthurwr Dan Sylw yn Ebrill a Mai 2019 yw’r Rose Teleri.

Gemydd ac arlunydd yw Rose Teleri sy’n byw yn Sir Benfro. Mae Rose yn defnyddio arian i ymchwilio i’r ffurfiau a’r gweadau y deuir o hyd iddynt yn y dirwedd arfordirol mae hi’n byw ynddi. Mae hi’n gweithio gydag arian sydd wedi’i ailgylchu ac yn osgoi cemegau cymaint â phosibl. Defnyddia Rose y broses wresogi i greu patinas diddorol gan weithio gyda’r canlyniadau nad oes modd eu rhagweld. Mae’n trin yr arian fel mae paentiwr yn trin cynfas, ac mae pob marc gan y morthwyl neu grafiad gan y ffeil yn creu haenau i’r darn nad ydynt i’w cuddio na’u sgleinio fel bod neb yn eu gweld. Crea’r dull hwn hanes sy’n driw i’r deunydd ac yn driw i’w gweledigaeth.

 

Bydd y gwaith ar werth.  Mae Collectorplan (cynllun prynu di-log) ar gael.

 

Gadael sylw

*

Prosiectau Oddi ar y Safle

O gwmpas y lle

Digwyddiadau Arbennig

Coed Hynaf

Cofrestrwch ar gyfer y newyddion diweddaraf