Gwaith Newydd Glenys Cour

Photographer: Toril Brancher

Mae Glenys Cour yn un o artistiaid mwyaf poblogaidd Cymru. Yn yr arddangosfa hon ceir corf newydd o waith yn canolbwyntio ar flodau a thirlun. Mae ei lliwiau a’i chyfosodiadau bendigedig yn dangos ei bod yn feiddgar ac eto dan reolaeth yn ei hymateb i’r byd o’I chwmpas. Mae egni afieithus yn disgleirio o’i pheintiadau, ac o’i phersonoliaeth hithau hefyd. Yn dal i beintio wedi dros drigain mlynedd o ymarfer stiwdio ymroddedig a disgybledig, mae hi’n ysbrydoliaeth inni i gyd.

 

Gadael sylw

*

Prosiectau Oddi ar y Safle

O gwmpas y lle

Cofrestrwch ar gyfer y newyddion diweddaraf