Digwyddiad Arbennig Dydd Sul!

Dilyn ôl ei thraed

Ymunwch â ni ar Sul y Mamau am basteiod a choffi bore Sul gyda’r artist, Angela Maddock a’i merch, Ruby Maddock (Cynorthwyydd Ysgolion sy’n Dysgu Tate, awdur ac artist) ar gyfer digwyddiad anghonfensiynol ‘In Conversation’ i agor ein harddangosfa newydd:

Angela Maddock: Sometimes all you can do is walk

31 Mawrth – 11 Mai 2019

Ar 6 Hydref 2018, dechreuodd Angela gerdded o Gaerfyrddin i Middlesbrough. Dilynodd Ruby thaith ei mam o bell. Yn y digwyddiad ‘In Conversation’ hwn, maent yn ein gwahodd ni i ymuno â nhw wrth iddynt edrych ar dystiolaeth siwrnai epig – ei hanesion, ei heriau, y dystiolaeth a gasglwyd, a ddychwelwyd ac a drawsnewidiwyd a’r hyn a allai ei olygu i ‘ddilyn ôl ei thraed’.

 

Digwyddiad am ddim, does dim angen archebu, mae croeso i bawb (mamau a merched yn ddewisol!)

Gadael sylw

*

Prosiectau Oddi ar y Safle

O gwmpas y lle

Digwyddiadau

Blodau ac Wyau…

Cofrestrwch ar gyfer y newyddion diweddaraf