Cecile Johnson Soliz: Gwneud Lan

Tynnu llun, peintio a gwneud ffurfiau cerfluniol yw gwaith Cecile Johnson Soliz. Trwy gyfuno’r prosesau hyn bydd yn creu pethau sy’n ein hannog i ryfeddu. Mae ei gweithiau diweddar yn bodoli mewn sgwrs â’i gilydd, gan rannu technegau lapio, clymu, igam-ogamu, plygu, cris-croesi a weindio… prosesau y gellir arfer pob un ohonynt wrth gerflunio, peintio a lluniadu.

Ysgogwyd y corff gwaith newydd hwn yn ystod digwyddiad diweddar gan Gymru Greadigol, meddai: ‘weithiau ’rych chi’n meddwl eich bod yn gwybod beth ’ych chi’n edrych arno, ond wedyn ’dych chi ddim yn siŵr… ac wedyn daw posibilrwydd arall i’ch pen… ac un arall… rwy’n hoffi amwysedd pethau.’

 

Gadael sylw

*

Prosiectau Oddi ar y Safle

O gwmpas y lle

Cofrestrwch ar gyfer y newyddion diweddaraf