Archebwch eich lle!

Dydd Sadwrn 16 Mawrth 2019

Am un diwrnod yn unig! Dewch i Blas Dinefwr ym Mharc Dinefwr sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol er mwyn cael cyfle unigryw i gymryd rhan yn y prosiect cymunedol gwych hwn. Ymunwch â sesiwn hwyliog, gyfeillgar a gwnewch eich tŷ plastr eich hun.

Ar gyfer y digwyddiad arbennig hwn, bydd y tai pitw bach ac iddynt elfen rychog i adlewyrchu hanes ‘Tref Tun’, sef casgliad o adeiladau tun oedd i’w gweld ar un adeg ar Ystad Dinefwr. Bydd y tai yn creu eu hanheddiad bach eu hunain ym Mhlas Dinefwr am y diwrnod cyn cael eu dychwelyd i Oriel Myrddin.

Mae’r holl sesiynau gweithdy dan arweiniad ein hwylusydd dwyieithog a bydd pob un yn cael cyfle i wneud tŷ.

Mae’r sesiwn hon AM DDIM ac ni chodir tâl mynediad ychwaith.

Archebwch eich lle nawr!

 

Gadael sylw

*

Prosiectau Oddi ar y Safle

O gwmpas y lle

Cofrestrwch ar gyfer y newyddion diweddaraf