Abigail Sidebotham – I came like all the ghosts at once

I came like all the ghosts at once – dyma adrodd, ar air ac fel llun, hanes y ‘Sea Empress’, y tancer a ollyngodd olew oddi ar arfordir Sir Benfro yn 1996. Mae’n dod ynghyd ag ymchwil, disgrifiad clywedol, deunydd o’r archif, pobl a llefydd a gofnodwyd gan yr artist yn ystod ei phrosiect 2016.

Mae’r stori sydd wedi’i ffilmio ar draws safleoedd yn Sir Benfro, wedi’i ysgrifennu gan Rachel Marshall a’i hadrodd gan Gillian Clark, y bardd, yn cynrychioli casgliad o atgofion pobl am yr achos o ollwng olew. Gan ddisgrifio newid ar unwaith yn y cywair ffisegol a chlywedol wedi’r drychineb, mae’r gwaith yn edrych ar gyfoeth trosiadol a symbolaidd dwfn y dirwedd ac yn dychmygu dehongliadau newydd a chyflyrau ecolegol eraill sy’n ‘fwy na dynol’ o fodoli ar gyfer y dyfodol.

Ariennir “I came like all the ghosts at once” gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

 

 

 

Gadael sylw

*

Prosiectau Oddi ar y Safle

O gwmpas y lle

Digwyddiadau Arbennig

Ymateb: amser ysgrifennu creadigol

Cofrestrwch ar gyfer y newyddion diweddaraf