Mwynhewch y gyfres hon o daflenni lliwio ar thema pryfed ac ieir bach yr haf y gallwch eu denu i’ch gardd dros y gwanwyn a’r haf. Gallwch eu hargraffu a’u lliwio, a rhannwch y canlyniadau gyda ni!

Woodlouse colouring sheet bee earwig Butterfly

Dyma fideo gan Emily, ein Cydgysylltydd Celf Gymunedol, sy’n rhoi cyfarwyddiadau ar sut i wneud gwesty trychfilod ar gyfer yr ardd.

 

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, gofynnon ni gwestiynau i’n gwneuthurwr dan sylw, Rachel Larkins, ynghylch ei hysbrydoliaeth a pha gyngor fyddai hi’n ei roi i artistiaid ifanc sy’n cychwyn arni.

  • Pa fath o heriau sy’n wynebu menywod yn y celfyddydau, yn eich barn chi?

Gall gweithio yn y celfyddydau fod yn waith caled ac nid yw’n talu’n dda bob amser, felly, yn aml gall fod yn fater o gydbwyso sawl rôl ar yr un pryd. Fel gwneuthurwr, rwyf wedi gweithio gyda myfyrwyr rhwng 16 ac 80 oed a chredaf fod goresgyn problemau hunanhyder o ran dangos eich gwaith i bobl eraill, waeth beth fo’ch rhyw a’ch oed, yn gallu bod yn heriol iawn hefyd.

  • A oes artist neu grefftwr penodol a wnaeth eich ysbrydoli?

Fe wnaeth tair dynes wahaniaeth mawr i’m gyrfa gynnar – Jane Wildgoose, yr artist a gynigiodd brofiad gwaith imi ar ôl graddio; Linda Fredericks, sylfaenydd Artsway lle roedd fy stiwdio gyntaf, a Kristin Baybars, casglwr a dylunydd teganau a brynodd un o’r darnau cyntaf a greais i gasglwyr (doli Hugan Fach Goch a’r blaidd). Roedd y tair yn hael iawn gyda’u hamser, gan roi anogaeth ac adborth gonest i mi.Allwn i ddim enwi dim ond un… mae yno’r artistiaid a’r ysgrifenwyr gweledol hynny yr wyf yn eu hedmygu, megis Angela Carter, Marina Warner, Rebecca Horn, Kiki Smith a llawer o grefftwyr ysbrydoledig yr wyf wedi bod yn ffodus i’w cyfarfod dros y blynyddoedd.

  • Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fenywod ifanc sy’n dechrau ar eu gyrfaoedd fel artistiaid?

I fod yn onest, mae fy nghyngor yr un peth, waeth beth fo’ch rhyw (!). Ceisiwch ddod o hyd i ddilysrwydd yn yr hyn yr ydych yn ei wneud. Mae’r hyn sy’n ymddangos fel llwyddiant dros nos i bobl eraill, yn aml yn cael ei ragflaenu gan flynyddoedd o waith anweledig. Mae’n bwysig hoffi’r hyn yr ydych yn ei wneud yn fawr ond nid oes yn rhaid i hyn fod ar draul popeth arall. Gall hyrwyddo eich hun deimlo’n anghyfforddus o gymharu â’r pleser o greu, ond mae’n angenrheidiol. Rwy’n credu bod y cyfryngau cymdeithasol wedi gwneud yr agwedd hon o weithio ar eich liwt eich hun yn llawer haws yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae’n cynnig cyfleoedd gwych i gysylltu’n uniongyrchol â’ch cynulleidfa.

  • Mae eich gwaith yn cael ei ysbrydoli gan lên gwerin a straeon tylwyth teg, a oes gennych hoff gymeriad sy’n fenyw?

Mae’r Hugan Fach Goch yn un o’r cymeriadau hynny yr wyf yn dychwelyd ato dro ar ôl tro – mae’r stori ei hun yn gyfoethog o ran ei his-destun ac mae llawer o theorïau ynghylch ei gwreiddiau.

Sut dechreuoch chi ar y llwybr hon? Oeddech chi’n gwybod yn wastad bod hwn oedd beth oeddech chi am wneud?

Doedd gen i ddim syniad mai artist fyddwn i, ac, yn yr ysgol, meteorolegydd oeddwn i am fod a dweud y gwir, er mai theori ieithyddol astudiais i yn y brifysgol. Doeddwn i ddim wedi astudio celf yn yr ysgol a dechreuais wneud celf am hwyl yn nosbarthiadau nos fy ngholeg lleol. Aeth pethau o’r fan honno.

Sut mae’ch gwaith wedi datblygu ers dechrau ei wneud?

Cerameg astudiais i (graddedig ac ôl-raddedig) yn yr ysgol gelf, felly rwyf wedi newid cryn dipyn! Ond mae hyd yn oed fy ngwaith tecstilau wedi newid yn sylweddol ers i mi ddechrau ei wneud tua 2006. Chwarae o gwmpas yn unig oeddwn i ar y dechrau, gan fy mod heb gael hyfforddiant mewn tecstilau. Mae’r datblygiad yn organig – does gen i ddim cynllun pendant.

Sut ydych chi’n ymosod at amser stiwdio – yn paratoi’r agwedd meddwl ar gyfer creu/gwneud? Ydych chi’n gweithio’n well ar adegau penodedig o’r dydd?

Does gen i ddim ffordd arbennig o wynebu’r diwrnod gwaith, heblaw am gael coffi. Alla i ddim canolbwyntio’n llawn ar waith oni bai bod yna fwg o goffi ar y ddesg! Ac nid yw amser y dydd fel petai’n gwneud dim gwahaniaeth.

Sut ydych yn herio’ch hun o fewn eich gwaith? Ydych chi’n meddwl y byddwch yn gweithio yn y cyfrwng hwn am byth?

Rwy’n teimlo bod ailadrodd yn ddiwerth (er fy mod yn mwynhau ail-greu llond llaw o gymeriadau megis gwenyn a chwningod drwg), ac mae’n well gen i newid. Dydw i ddim yn berson un-cyfrwng yn naturiol, er bod gweithio gyda thecstilau fel petai’n eithaf naturiol ac ysbrydoledig, oherwydd yr hyblygrwydd a’r potensial am amrywiaeth. Mae fy stiwdio, fodd bynnag, yn llawn deunyddiau eraill, a darnau o brosiectau nad ydynt yn gelfyddyd weledol a bod yn fanwl gywir. Amser yw’r cyfyngiad mwyaf arnaf – pe bai mwy o amser ar gael byddwn i’n gweithio mewn amrywiaeth o gyfryngau. Felly pwy a ŵyr beth fydd yn y dyfodol.

Beth a fyddai/sy wedi bod eich comisiwn delfrydol?

Dydw i ddim yn gwneud llawer o waith comisiwn, a dydw i ddim yn siŵr beth fyddai fy un delfrydol, ond mae’n rhaid i fi ddweud mai gwneud y cimwch ar gyfer ‘The Table’ yw’r gwaith comisiwn rwyf wedi cael y mwyaf o sbort wrtho fe hyd yn hyn!

Rydym yn gwybod bod sianelau cyfryngau cymdeithasol fel Instagram yn chwarae rôl ganolog erbyn hyn yn rhoi llwyfan i artistiaid. I ba raddau ydych chi wedi elwa oherwydd? Ydych chi’n credu y byddai’n bosibl y bydd yn wir gymryd lle oriel draddodiadol?

Os yw artist yn mynd i lwyddo’r dyddiau hyn, rwy’n credu bod angen cymysgedd o wahanol ffyrdd o ddangos a gwerthu gwaith. Ond nid yw gweld gwaith ar-lein yn cymharu â gweld y peth go iawn – mae’n brofiad hollol wahanol, ac mae’n anodd edrych yn iawn ar ddarn o waith, neu ei ystyried yn llawn, mewn delwedd, yn union fel nad yw llun mewn llyfr gystal â’r peth go iawn. Felly dydw i ddim yn meddwl y gall unrhyw beth gymryd lle orielau. Mae angen i ni allu gweld gwaith celf â’n llygaid ein hunain i’w werthfawrogi’n llwyr.

Oes arddangosfa ddiweddar yr ydych wedi bod yn dwli arni hi a hoffech fod pawb yn mynd i’w gweld?

Roedd yr arddangosfa ddiweddar o gelfyddyd weledol David Lynch yn HOME ym Manceinion yn wych. Rwy’n dwlu ar ei ffilmiau a’i raglenni teledu ers amser maith, felly roedd gweld ei waith celf drosof fi fy hun yn ysbrydoliaeth aruthrol. Cefais wefr hefyd yn arddangosfa Alice Kettles yn y Whitworth y llynedd. Roedd yn gorff anhygoel o waith, ac yn deimladwy iawn.

Beth sydd yn y dyfodol i chi a’ch gwaith? Oes gennych gynlluniau cyffrous ar gyfer 2020?

Rwy’n cyfaddef mai prin yw’r amser rwyf wedi’i gael i feddwl am gynlluniau’r dyfodol, ond fe hoffwn geisio datblygu rhai o’r prosiectau niferus eraill (dim gwnïo yw pob un) rwyf wedi cychwyn arnynt dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwy’n credu y bydd y gwaith yn parhau i fynd ymlaen ac i esblygu mewn ffordd organig, fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Rwy’n eithaf hoff o’r ffordd honno o weithio, pan nad wy’n gwybod sut fydd pethau’n troi mas. Serch hynny, un peth rwy’n bendant amdano yn 2020 yw fy mod yn mynd i’r ŵyl grefftau fendigedig yn Neuadd y Dref Cheltenham ym mis Mawrth, am y trydydd tro. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at hynny.

Sut dechreuoch chi ar y llwybr hon? Oeddech chi’n gwybod yn wastad bod hwn oedd beth oeddech chi am wneud?

Mae gan y ddau ohonom gefndiroedd creadigol. (Roedd Andy yn saer/asiedydd yn wreiddiol ac mae gan Karen gefndir mewn cerflunio celfyddyd gain.) Mae gweithio a byw gyda’n gilydd 24/7 yn gallu bod yn heriol ond rydym yn rhannu angerdd am glai a datblygodd ein gwaith yn naturiol. Mae clai yn gyfrwng perffaith i ni – rydym o hyd yn dysgu ac wrth gwrs mae natur gwaith clai yn golygu ein bod bob amser yn ddiymhongar!

Mae gweithio a chreu gyda’n dwylo yn rhan annatod o bwy ydym ac ni all yr un ohonom ddychmygu unrhyw lwybr bywyd arall!

 

Sut mae’ch gwaith wedi datblygu ers dechrau ei wneud?

Pan ddechreuodd ein partneriaeth greadigol mewn clai dros 10 mlynedd yn ôl, fe wnaethom benderfynu ganolbwyntio ar weithio drwy gyfrwng traddodiadol crochenwaith slip gan ddefnyddio clai priddwaith coch. Rydym wedi datblygu yn ein rolau – Andy sy’n llunio’r llestr a Karen sy’n darlunio ar y gwaith gan ddefnyddio’r dechneg sgraffito, sef ffordd o arlunio hynod o foddhaol sy’n cymryd llawer iawn o amser. Mae’r gwaith wedi dod yn fwy anturus ac mae ein hagwedd ato yn fwy hyderus.

 

Sut ydych chi’n ymosod at amser stiwdio – yn paratoi’r agwedd meddwl ar gyfer creu/gwneud? Ydych chi’n gweithio’n well ar adegau penodedig o’r dydd?

I fod yn onest, rydym bob amser yn yr hwyl i weithio yn y stiwdio (obsesiynol). Rydym yn teimlo’n ffodus bod ein stiwdio yn ein gardd ac yn edrych dros ein hieir swnllyd hyfryd, sy’n golygu bod ein taith i’r gwaith yn bleserus iawn. Nid oes byth digon o oriau yn y dydd a gan nad oes gennym fynediad i’r rhyngrwyd yn y stiwdio, mae cyn lleied o bethau i dynnu’n sylw.

 

Sut ydych yn herio’ch hun o fewn eich gwaith? Ydych chi’n meddwl y byddwch yn gweithio yn y cyfrwng hwn am byth?

Mae gweithio drwy gyfrwng traddodiadol crochenwaith slip yn her gyson – gall cymaint o bethau fynd o’i le ar bob cam! Cawn deimlad o ryddhad, boddhad a rhyfeddod pan fydd y darn yn llwyddiannus! Nid ydym yn grochenwyr cynhyrchu mawr ond rydym yn ymdrechu i greu crochenwaith gwreiddiol, hardd ac ymarferol. Ni allwn ddychmygu gwneud unrhyw beth arall oni bai am weithio yn y broses glai…..mewn gwirionedd, rydym yn credu y byddwn ni’n gwneud hyn cyhyd ag y byddwn ni’n gallu yn gorfforol!

 

Beth a fyddai/sy wedi bod eich comisiwn delfrydol?

Cawsom ein comisiynu i greu pot mawr priodasol â chlawr tua 8 mlynedd yn ôl ac fe wnaethon ni 3…rhag ofn! Roedd yr holl brofiad yn her ac ar ôl methu dwywaith, yn y pen draw fe wnaethom greu darn yr oeddem yn hapus ag ef. Mae’n grochan manwl iawn gyda llawer o ddelweddau wedi’u darlunio/sgraffito arno sy’n berthnasol i’r cwpl. Fodd bynnag, mae bellach yn ein cwpwrdd arddangos oherwydd gwahanodd y cwpl yn fuan ar ôl iddynt briodi! Mae gan y pot stori i’w hadrodd!

 

Rydym yn gwybod bod sianelau cyfryngau cymdeithasol fel Instagram yn chwarae rôl ganolog erbyn hyn yn rhoi llwyfan i artistiaid. I ba raddau ydych chi wedi elwa oherwydd?

Ydych chi’n credu y byddai’n bosibl y bydd yn wir gymryd lle oriel draddodiadol?

Byddem yn dweud bod Instagram wedi bod o fudd mawr i Adrift Pottery. Mae ein cynulleidfa wedi tyfu’n aruthrol ledled y byd drwy Instagram ac rydym yn anfon gwaith i bob cwr o’r byd. Mae’n ysbrydoliaeth a’n anogaeth fawr; mae’r gymuned grochenwaith ar Instagram yn arbennig o gefnogol ac mae hynny’n help mawr wrth fyw a gweithio yng nghefn gwlad gorllewin Cymru. Fodd bynnag, mae gennym berthynas o gariad a chasineb ag ef; gall fod yn llethol ar brydiau, sef y rheswm nad oes gennym fynediad i’r rhyngrwyd yn y stiwdio! O ran y cyfryngau cymdeithasol yn cymryd lle adeilad brics a morter traddodiadol…dim gobaith! Mae gwaith ceramig a chelf ar eu gorau pan fydd rhywun yn eu gweld neu’n eu cyffwrdd os oes modd. Yn wir, byddai’n fyd trist pe bai orielau yn diflannu.

 

Oes arddangosfa ddiweddar yr ydych wedi bod yn dwli arni hi a hoffech fod pawb yn mynd i’w gweld?

Cawsom y fraint o gael ein gwahodd i arddangos ein gwaith yn Art at the Hall, Llangathen, Sir Gaerfyrddin, ddwywaith eleni ac roedd y sioe wedi’i churadu’n dda iawn. Roedd gan y ddwy sioe themâu gwahanol ac roedd llawer o artistiaid sy’n gweithio drwy ddulliau gwahanol yn arddangos eu gwaith. Roedd yn gyffrous iawn i fod yn rhan o sioe mewn lle mor anhygoel. Roeddem yn falch o annog pawb i fynd i’w gweld; cafodd yr arddangosion eu grwpio gyda’i gilydd a’u symud o bryd i’w gilydd gan greu cyfosodiadau diddorol. Roedd cynifer o artistiaid talentog lleol, sydd fel arfer yn cuddio yng ngorllewin Cymru, yn arddangos eu gwaith gyda’i gilydd yn creu teimlad cyffrous ac arbennig.

 

Beth sydd yn y dyfodol i chi a’ch gwaith? Oes gennych gynlluniau cyffrous ar gyfer 2020?

Mae ein gwaith yn datblygu’n gyson, ac mae gennym lawer o syniadau newydd rydym yn awyddus i’w datblygu. Un cynllun arbennig o gyffrous ar gyfer 2020 yw hunan-adeiladu odyn tân coed y tu cefn i’n stiwdio. Credwn y bydd hyn yn datblygu ein gwaith mewn sawl cyfeiriad gwahanol ac rydym yn edrych ymlaen at ddechrau ar y prosiect.

 

Sut dechreuoch chi ar y llwybr hon? Oeddech chi’n gwybod yn wastad bod hwn oedd beth oeddech chi am wneud?

Rwy wedi bod yn dwli ar beintio a darlunio’n wastad. Rwy wedi ei wneud bob munud sbâr er pan wy’n cofio. Dechreuodd fy ngyrfa mewn bwyd yn 25 oed mewn lle arbennig o’r enw Ultracomida – ar wahân i’r coginio ei hun, y teimlad o goginio i eraill sy wedi rhoi’r dymuniad i mi wneud beth rwy’n gwneud nawr.

Sut mae’ch gwaith wedi datblygu ers dechrau ei wneud?

Mae’r rhan fwyaf o’r gelf rwy’n ei gwneud yn ffitio o gwmpas fy ngwaith arall fel cogyddes annibynnol. Felly rwy’n dueddol o dynnu, peintio a thorri leino mewn darnau mae eu maint yn hawdd i reoli. Dwi ddim yn hoffi cael cynlluniau sy’n parhau am gyfnod hir. Ar y cyfan rwy’n tynnu a pheintio bwydydd y dyddiau hyn. Mae’n adlewyrchu beth rwy’n gwneud i ennill arian.

 

Sut ydych chi’n ymosod at amser stiwdio – yn paratoi’r agwedd meddwl ar gyfer creu/gwneud? Ydych chi’n gweithio’n well ar adegau penodedig o’r dydd?

Yn anffodus mae amser stiwdio’n brin. Rwy’n ceisio ffitio mewn o leiaf un awr bob dydd ac yn aml iawn mae’n hwyr yn y nos. Y freuddwyd yw treulio cwpl o ddiwrnodau bob wythnos. Un peth rwy’n gallu dweud yw fy mod yn fwy cynhyrchiol gydag amser cyfyngedig. Rwy’n ceisio gwneud y gorau allan o’r amser byr sy gen i. Os mae gen i ddirwnod cyfan i beintio rwy’n gwneud yn llai o lawer!

 

Sut ydych yn herio’ch hun o fewn eich gwaith? Ydych chi’n meddwl y byddwch yn gweithio yn y cyfrwng hwn am byth?

Rwy’n ceisio ymestyn dros sawl cyfrwng mewn gwirionedd – dyma ffordd naturiol o wthio yn erbyn y ffiniau a gweithio tu allan i beth sy’n gyfforddus. Mae cyrsiau bach yn ffordd arbennig o geisio cyfrwng newydd. Es i ar gwrs penwythnos gan Ian Phillips a dyna ble dechreuodd fy nghyfres fach dorri leino.

Beth a fyddai/sy wedi bod eich comisiwn delfrydol?

Dwi ddim yn hoffi comisiynau gormod oherwydd gweithio dan bwysau disgwyliadau rhywun arall. Y comisiwn gorau y gwnes i yw mosäig grisiau. Y fi oedd wedi gosod y disgwyliadau o’r dechrau a felly roedd gen i weledigaeth glir o’r darn terfynol.

Rydym yn gwybod bod sianelau cyfryngau cymdeithasol fel Instagram yn chwarae rôl ganolog erbyn hyn yn rhoi llwyfan i artistiaid. I ba raddau ydych chi wedi elwa oherwydd?

Ydych chi’n credu y byddai’n bosibl y bydd yn wir gymryd lle oriel draddodiadol?

Mae’n llwyfan bwysig iawn yn fy marn i. Mae wedi chwarae rôl enfawr wrth gyrraedd lle yr ydw i heddiw. Er hynny dwi ddim yn credu y gellir ailososd oriel draddodiadol. Mae rhywbeth mor arbennig am sefyll yn agos at gelfwaith yn y cnawd. Dim ond mewn orielau ydy’r teimlad yna yn dod. I mi, egni a sïon oriel yw hanner y pwynt – rwy’n dwli ar weld ymatebion pobl i gelfweithiau.

 

Oes arddangosfa ddiweddar yr ydych wedi bod yn dwli arni hi a hoffech fod pawb yn mynd i’w gweld?

Gwelais i arddangosfa gan Mark Frith yng Ngerddi Kew yn ddiweddar. Cyfres o ddarluniadau graffit o dderw ar raddfa fawr oedd hi – methu credu sut mor odidog oeddent.

Beth sydd yn y dyfodol i chi a’ch gwaith? Oes gennych gynlluniau cyffrous ar gyfer 2020?

Mae llawer mwy o ryseitiau a thoriadau leino ar y ffordd!

 

Prosiectau Oddi ar y Safle

O gwmpas y lle

Gweithdy

Atgofio Derw…

Cofrestrwch ar gyfer y newyddion diweddaraf