Neil Ansell: Deep Country

Dydd Iau 19 Medi 2019 6 – 7:30pm

Ochr yn ochr â’n harddangosfa Land Acts yn Oriel Myrddin, byddwn ni’n darllen Deep Country: Five years in the Welsh hills gan y newyddiadurwr Neil Ansell. Dyma stori am bum mlynedd a dreuliwyd yn byw ar ei ben ei hun mewn bwthyn ar fynydd-dir diarffordd yng Nghymru.

‘Roeddwn i’n byw yn y bwthyn hwn am bum mlynedd, haf a gaeaf, heb unrhyw drafnidiaeth na ffôn.  Dyma stori‘r pum mlynedd hynny, lle’r oeddwn yn byw a sut roeddwn yn byw.  Stori ydyw am yr hyn y mae’n ei olygu i fyw mewn lle sydd mor ddiarffordd fel y gallech fynd am wythnosau lawer heb weld yr un enaid byw.  Mae’n stori am lefydd cudd a ddaeth yn llefydd personol i mi a’r creaduriaid gwyllt a ddaeth yn rhan o’m cwmnïaeth.’

‘Touching. Through Ansell’s charming and thoroughly detailed stories of run-ins with red kites, curlews, sparrowhawks, jays and ravens, we see him lose himself . . . in the rhythms and rituals of life in the British wilderness’ Financial Times

Extraordinary, magical, so powerful’ Independent

Ymunwch â ni am drafodaeth anffurfiol a chyfeillgar yng nghwmni Kirsten Hinks-Knight.

Darperir te a chacen am ddim ac mae croeso i bawb.

Fel rhan o Ŵyl y Gwanwyn Age Cymru, cynhaliodd Oriel Myrddin sesiwn gelf yn yr awyr agored i archwilio cysylltiadau â natur. Daeth pum tenant o’r cynllun gofal ychwanegol, Cartref Cynnes, yn Nhre Ioan, yn ogystal â Pam, un o wirfoddolwyr Oriel Myrddin, a Heather Birnie sy’n ffotograffydd, i ymuno â’r ein Cyd-drefnydd Celf Gymunedol, Emily Laurens am sesiwn adfyfyriol ar ddarn o dir gwyllt.

Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan Gwanwyn ac mae wedi’i ysbrydoli gan arddangosfa Oriel Myrddin o’r enw Forest + Found: Cerdded y Lein. Mae dau artist Forest + Found yn cael eu hysbrydoli gan eu perthynas â’r tir, gan droedio’r llinell rhwng celf a chrefft. Mae Cerdded y Lein yn cael ei arddangos yn Oriel Myrddin tan 6 Gorffennaf. Mae Gwanwyn yn darparu ffyrdd i bobl hŷn gymryd rhan yn y celfyddydau a’r gweithgareddau creadigol yn ystod mis Mai. Mae’n dathlu’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl hŷn, ac yn hyrwyddo’r manteision yn sgil archwilio creadigrwydd, datblygu llais critigol a chymryd rhan lawn ym mywyd artistig a diwylliannol cymunedau lleol ledled Cymru.

Emily:

“Ar y darn o dir gwyllt rhwng Cartref Cynnes ac Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth, mae yna bwll sydd â llwybr a choed prydferth aeddfed o’i amgylch. Mae yno digonedd o ddail tafol, danadl a blodau menyn ac mae’r cloddiau’n llawn blodau mis Mai a dail newydd. Does dim llawer o ddŵr yn y pwll ond mae llafrwyn pigog yn ymwthio mas o’r mwd. Roedd y tywydd yn berffaith – yn heulog ond heb fod yn rhy dwym, ac roedd awel fach. Safon ni wrth ochr y llwybr er mwyn i’r cyfranogwyr allu ymestyn i lawr a chasglu gweiriau a blodau.

O un i un, daeth y cyfranogwyr i’r llecyn, yn ansicr am beth fyddai angen iddynt ei wneud, ond yn agored ac yn fodlon i roi cynnig ar rywbeth newydd ac anghyfarwydd. Roedd rhai cwynion – nid oedd un o’r cyfranogwyr yn hapus i fod yn yr awyr agored, gan ddweud “Byddai hyn llawer gwell yn yr ystafell grefftau” ac roedd llawer o bobl yn dweud “Alla i ddim tynnu llun” “Alla i ddim gwneud celf”.

Ar ôl cyflwyniadau byr, aethon ni ati i ddechrau ar y gweithgaredd cyntaf. Gyda grwpiau sy’n teimlo’n ansicr a braidd yn bryderus, credaf ei bod hi’n well gwneud gweithgaredd cyn gynted â phosibl. Roedd y sesiwn gyfan yn seiliedig ar archwilio byd natur drwy’r synhwyrau ac i ddechrau roeddwn eisiau canolbwyntio ar sŵn. Roedd hyn yn hynod o werthfawr i un cyfranogwr oedd yn rhannol ddall. Pan ddywedais y byddwn yn darlunio gyda’n llygaid ar gau, chwarddodd gan ddweud “Rwy’n meddwl galla i wneud hynny!”

Felly gyda’n llygaid ar gau ac mewn tawelwch, gwnaethom ddarlunio’r synau o’n hamgylch. Caneuon yr adar duon, y gwynt yn chwythu drwy’r coed, a’r plant yn cael hwyl ac yn gweiddi ym maes chwarae’r ysgol. Gwnaeth y cyfranogwyr ddefnyddio clipfyrddau a ffyn graffit sy’n gallu cael eu defnyddio ar unrhyw ongl a gwneud marciau ar bob ochr iddynt. Roedd y canlyniadau’n haniaethol ac yn ddiddorol a dechreuodd sgwrs ynghylch sŵn: y gwahaniaeth rhwng synau a wneir gan bobl a’r synau naturiol – rhannwyd straeon a gwnaeth pawb chwerthin wrth sôn am y lorïau bin y gellir eu clywed am 4am ynghyd â chôr y bore bach; am y ffordd y mae’r synau o’n hamgylch yn dueddol o godi a gostegu, hyd yn oed eiliadau o ddistawrwydd, ar ôl i chi ddechrau sylwi.

Ar ôl sŵn, gwnaethom ganolbwyntio ar y synhwyrau gweledol, gan fod yn ymwybodol bob amser o alluoedd amrywiol y cyfranogwyr. Mae’n hawdd gorlwytho’r synhwyrau ym myd natur, gan fod cynifer o bethau i edrych arnynt a chymaint o fanylder. Er mwyn ystyried hyn, edrychom drwy ffenestri, gan roi lluniau mewn fframiau a thynnu lluniau â llygad ein meddwl – golygfeydd yn y pellter, lluniau agos, a phatrymau. Er bod y gweithgaredd hwn yn syml iawn gwnaeth y cyfranogwyr ei fwynhau’n fawr, gan fanteisio i’r eithaf ar y cyfle i edrych yn fanwl a gwireddu grym fframio llun. Wedyn gwnaethom ddathlu’r gwyrddni o’n hamgylch, drwy gasglu dail, eu torri a’u glynu wrth dâp dwyochrog i gymharu’r lliwiau, gweld graddiannau ymysg y gwyrddion o dywyll i olau. Roedd hwn yn ymarfer a oedd yn edrych yn fanwl ac yn sylwi ar y pethau y mae ein llygaid yn eu hanwybyddu fel arfer.

Wrth i ni symud ymlaen i’r synhwyrau yr ydym yn eu defnyddio’n llai aml ar lefel ymwybodol – arogli a chyffwrdd – newidiodd yr awyrgylch. Ymlaciodd y cyfranogwyr, gan rannu straeon personol o’u perthynas â byd natur, a chael atgofion wrth arogli pethau a chyffwrdd â nhw. Roedd yna ymdeimlad o ymgolli’n llwyr a chanolbwyntio ac roedd y cyfranogwyr fel pe baent yn llai ymwybodol o Heather a’i chamera.

Yn ystod gweithgaredd arall â llygaid ar gau, gwnaeth Pam a finnau ddosbarthu pethau o fyd natur – rhosyn o’m gardd, cerrig o’r traeth, cregyn. Gwnaeth y cyfranogwyr gydio yn y pethau a’u teimlo, gan ddweud y geiriau a oedd yn dod i’w meddwl. Cydiodd Gwynedd mewn pluen a dywedodd “Cyfeiriad, mae cyfeiriad yn hollbwysig i’r peth hwn”. Dywedodd Margaret, wrth gyffwrdd â’r gragen las, “cwch fferi, ddim yn berffaith, odrwydd”. Roedd Audrey wedi bod yn amharod iawn ar ddechrau’r sesiwn, ond wrth iddi roi’r rhosyn ar ei hwyneb, gan deimlo’r petalau ar eu bochau, dywedodd “Croen baban, croen baban newydd-anedig”. Wedyn, soniodd wrthym am ei gyrfa hir fel bydwraig a chymaint yr oedd hi’n dwlu ar afael yn y babanod newydd.

Roedd arogl a blas y garlleg gwyllt yn gwneud i Audrey rannu straeon am ei mam-gu, a oedd yn dwlu ar fyd natur ac a fyddai’n mynd â hi am deithiau cerdded drwy ddolydd ac yn dysgu enwau’r blodau gwyllt iddi a’r ffyrdd o chwilio am fwydydd gwyllt a’u coginio. Wrth gyffwrdd â charreg fach lefn, soniodd Charlie wrthym am ei blentyndod yng Nglanyffferi, y coedwigoedd a’r traethau. Roedd yn cadw gwiber yn y tŷ am gyfnod, a roddodd sioc i’w fam a ddaeth o hyd iddi yn ei ystafell wely!

Ar ddiwedd y sesiwn, gwnaethom fwynhau’r awel, a gwylio petalau a hadau’n chwythu yn y gwynt. Ysgydwodd Gwynedd betalau blodau mis Mai, a arhosodd yn ei gwallt fel conffeti, a thaflodd Audrey ei phetalau rhosod mewn eiliad o lawenydd.”

Bydd arddangosfa o rai o’r lluniau o’r sesiwn gan Heather Birnie ar gael i’w gweld yn The Warren, Heol Mansel, Caerfyrddin, tan 23 Mehefin.

Dydd Iau 4 Gorffennaf 2019 6 – 7:30pm

I gyd-fynd â’n harddangosfa, Forest + Found: Walking the Line, yn Oriel Myrddin, rydym yn falch bod yr artistiaid Max Bainbridge ac Abigail Booth wedi dewis llyfr yn arbennig ar gyfer ein Clwb Llyfrau.

Oddi wrth yr awdur llwyddiannus a gyhoeddodd y llyfrau Autumn a Winter, yn ogystal â’r gyfrol How to be both a enillodd wobr, daw’r cyhoeddiad nesaf yn y gyfres ryfeddol Seasonal Quartet.

Beth sy’n gyffredin rhwng Katherine Mansfield, Charlie Chaplin, Shakespeare, Rilke, Beethoven, Brexit, y presennol, y gorffennol, y gogledd, y de, y dwyrain, y gorllewin, dyn sy’n galaru dros amser sydd wedi mynd, menyw sy’n gaeth mewn oes fodern?

Y Gwanwyn. Yr hyn sy’n cysylltu popeth.

Gobeithio am yfory gwell.

‘Autumn’, ‘Winter’ and  ”Spring’ are state of the nation novels which understand that the nation is you, is me, is all of us’  New Statesman

 

‘Her best book yet, a dazzling hymn to hope, uniting the past and the present with a chorus of voices’  The Observer

 

Ymunwch â ni am drafodaeth anffurfiol a chyfeillgar yng nghwmni Kirsten Hinks-Knight.

Darperir te a chacen am ddim ac mae croeso i bawb.

Nan Shepherd: The Living Mountain

Dydd Iau 2 Mai 2019 6 – 7:30pm

I gyd-fynd â’n harddangosfa, Sometimes all you can do is walk, yn Oriel Myrddin, rydym yn falch bod yr artist Angela Maddock wedi dewis llyfr yn arbennig ar gyfer ein Clwb Llyfrau.

Cafodd The Living Mountain gan Nan Shepherd ei ysgrifennu yn ystod y 1940au ond ni chafodd ei gyhoeddi am fwy na 30 mlynedd, ac mae wedi’i ddisgrifio’n ‘gampwaith o ysgrifennu am fyd natur’.

Mae’r llyfr yn disgrifio teithiau’r awdur i Fynyddoedd Cairngorm yn yr Alban ac yn manylu ar fyd o harddwch a gerwindeb, gan gofnodi’r dirwedd ffisegol a’r creaduriaid y mae’n dod ar eu traws yn ei rhyddiaith farddonol ddwys.

Ymunwch â ni ar gyfer trafodaeth anffurfiol a chyfeillgar yng nghwmni Kirsten Hinks-Knight.

“Y llyfr gorau a ysgrifennwyd erioed am natur a thirwedd ym Mhrydain.” The Guardian

“Mae’r rhan fwyaf o weithiau llenyddol am fynyddoedd wedi’u hysgrifennu gan ddynion, ac mae’r mwyafrif ohonynt yn canolbwyntio ar y nod, sef y copa. Mae archwiliad diamcan a chwantus Nan Shepherd o Fynyddoedd Cairngorm yn wahanol ac yn ffres.” Robert Macfarlane

 

Darperir te a chacen am ddim ac mae croeso i bawb.

Armitage, S (2013) Walking Home (London: Faber & Faber)

Gros, F (2014) A Philosophy of Walking (London: Verso)

Herzog, W (2014) Of Walking in Ice (London: Vintage)

Hunter, C (2019) Threads of Life (London: Sceptre)

Jamie, K (2012) Sightlines (London: Sort of Books)

Macfarlane, R (2013) The Old Ways (London: Penguin)

Morrison Bell, C et al (2013) Walk On: from Richard Long to Janet Cardiff – 40 Years of Art Walking (Sunderland: Art Editions North)

Shepherd, N (2011 [1977]) The Living Mountain (London: Canongate)

Solnit, R (2006) A Field Guide to Getting Lost (Edinburgh: Canongate)

Solnit, R (2002) Wanderlust: A History of Walking (London: Verso)

Solnit, R (2013) The Faraway Nearby (London: Granta)

Thoreau, H D (2017) Walking (Los Angeles, CA: Enhanced Media Publishing)

Iain Sinclair (2006) Edge of the Orison: In the Traces of John Clare’s ‘Journey Out of Essex (London: Penguin)

Prosiectau Oddi ar y Safle

O gwmpas y lle

Cofrestrwch ar gyfer y newyddion diweddaraf