Swyddog Ymchwil ac Addysg y Celfyddydau

22.5 awr yr wythnos

£21,074* – £24,657* (Gradd F) *Pro-rata

Dyddiad Cau : 20/05/2018

Rydym am benodi unigolyn i hwyluso, darparu a datblygu, ar y cyd â Rheolwr Oriel Myrddin, ddarpariaeth addysg sy’n gwella rhaglen arddangosfeydd Oriel Myrddin ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, a cholegau ac oedolion yn Sir Gaerfyrddin.

Mae gallu cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg yn ofynnol ar gyfer cyflawni’r swydd hon. Gellir estyn cymorth ar ôl y penodiad i gyrraedd y lefel hon.

Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch â Catherine Spring ar 01267 224833.

Crëwyd y fainc hon gan Jordan Cannon, myfyriwr blwyddyn gyntaf yng Ngholeg Plas Dwbl. Coleg arbenigol i oedolion ifanc ag anghenion dysgu cymhleth yw Plas Dwbl (Ymddiriedolaeth Ruskin Mill).

Fe’i gwnaed o un gangen onnen a gwympwyd gan Jordan gan ddefnyddio offer llaw (gallwch weld olion y llif ar y sedd). Gwnaed y fainc gyfan o un boncyff gan ddefnyddio dulliau ac offer traddodiadol dan arweiniad Rhys Townsend, tiwtor Gwaith Coed Gwyrdd.

Dywed Jordan “Cadair i ddau yw hon, a oedd yn golygu y gallai rhywun eistedd gyda mi ac ni fyddwn yn teimlo mor unig.”

 

Barcelona Chair, Model No. MR90, 1929
Dur gwastad chrome, lledr  / Chromed flat steel, leather

Dyluniad / Design: Mies van der Rohe and Lily Reich
Ailgyflwyniad / Reissue: Knoll International, US

Design Museum Collection

 

 

Arddangosfa oddi ar y safle yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Parc Howard, Heol Felinfoel, Llanelli SA15 3LJ

Cydweithrediad rhwng Oriel Myrddin a Gwasanaeth Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin gan ddiolch i Tim Bowen Antiques

 

 

 

Save

Fibreglass Felt Chair, 1994

Ffeibrwydr, Alwminiwm

Dyluniad: Marc Newson

Production gan Cappellini, Italy

Design Museum Collection

14 – 28 Ebrill 2018

Ochr yn ochr â’n harddangosfa ‘Chair/Cadair’ yn y brif oriel, rydwm yn arddangos hoff gadeiriau ein hymwelwyr a’r storïau a’r atgofion sydd ynghlwm wrthynt yn y cyntedd oriel.

“Cafodd y gadair hon ei dylunio a’i phwytho gan fy mam, Valerie Wood, sy’n 90 oed, yn ystod y 1980au, ac mae’n dathlu’r holl bethau y mae wrth eu bodd â nhw. Ffigwr fy nhad, yr oedd hi’n rhannu ei bywyd gydag ef, sydd fwyaf amlwg ar y cefn – byddent yn chwarae cerddoriaeth y Dadeni a gwisgodd y wisg hon pan arweiniodd y dathliadau 600 mlynedd yng Nghaerloyw. Gellir gweld ei phlant ynghyd â Lena, ein ci, a Lorna y ferlen y bu i ni ddysgu marchogaeth arni. Y tai lle buom yn byw, a greodd gyda Dad, yr eglwysi cyfagos a’r cyfan wedi’i amgylchynu gan y gerddi yr oedd wedi eu plannu ac yn eu caru, coed a blodau ym mhobman.”

Dinah

 

 

31 Mawrth – 14 Ebrill 2018

Ochr yn ochr â’n harddangosfa ‘Chair/Cadair’ yn y brif oriel, rydym yn arddangos hoff gadeiriau ein hymwelwyr a’r storïau a’r atgofion sydd ynghlwm wrthynt yn y cyntedd oriel.

“Daeth y gadair hon o gartref y teulu yn Poole. Roedd yn eiddo i fy Anti Barbara a oedd yn dipyn o gymeriad – un o arwresau’r Rhyfel Mawr a oedd â choes bren. Roedd y gadair wedyn yn un o’r cadeiriau o gwmpas y bwrdd yn y gegin yn yr amrywiol fythnnod bach yr oeddem yn byw ynddynt yng ngorllewin Cymru o’r 1970au tan heddiw. Mae yn farciau pennau ffelt a phant arni ar ô gwahanol brosiectau celf, gwaith adnewyddu, plant ac wyrion. Roedd y coesau bob amser yn mynd ychydig yn rhydd; o bryd i’w gilydd byddwn yn eu rhoi wyneb i wared allan yn y glaw ac mae’r un yma wedi’I dal ynghyd gan bâr o deits.” 

Samantha Laurens

Mae Oriel Myrddin angen eich cadeiriau a’r atgofion sydd ynghlwm wrthynt!

Gall cadeiriau fod yn brydferth, yn ymarferol a hefyd yn wrthrychau sy’n llawn atgofion. Y gadair yr oedd eich tad-cu yn eistedd arni o flaen y tân, y gadair siglo lle yr oeddech wedi ceisio cael eich baban i gysgu, y gadair wrth y bwrdd yr oeddech wedi eistedd yng nghôl eich modryb i edrych ar lyfrau lluniau.

Ochr yn ochr â’n harddangosfa cadeiriau yn y brif oriel, byddwn yn arddangos hoff gadeiriau ein hymwelwyr – o gadeiriau breichiau i gadeiriau plygu – a’r storïau a’r atgofion sydd ynghlwm wrthynt. Caiff y cadeiriau eu harddangos ar blinth yng nghyntedd yr oriel, ac wrth ei hyml ceir stori ynghylch pam mai’r gadair hon yw eich ffefryn a’r atgofion a ddaw i’r meddwl. Caiff bob cadair ei harddangos am bythefnos. Os hoffech i’ch hoff gadair gael ei chynnwys yn yr arddangosfa, anfonwch e-bost atom, gyda llun o’r gadair a’ch stori/atgof –  emlaurens@sirgar.gov.uk

Cawsom ymateb gwych i’n cystadleuaeth bwrdd stori, sef Straeon y Pysgotwyr, a oedd yn cyd-fynd ag Wythnos Gymreig Caerfyrddin.

Fel rhan o Wythnos Gymreig a Blwyddyn y Môr yng Nghymru, mae llwybr cyryglau yng Nghaerfyrddin, ac mae cyryglau mewn sawl man drwy’r dref, gan gynnwys yn y llyfrgell a’r farchnad dan do.

 Roedd ein cystadleuaeth yn agored i bobl o bob oedran a gallu a chawsom dros 30 o gynigion, sydd i’w gweld bellach ar ein tudalen Facebook. Roeddem wedi gofyn i bobl am eu Straeon Mawr am anturiaethau dychmygol mewn cyryglau, ac roedd y cynigion yn sicr yn dangos llawer iawn o ddychymyg!

Cafwyd angenfilod y môr gan Nora Whitehead a Kwaku, o Ysgol Parc Waun-dew, a ddaeth yn agos at y brig. Cawsom chwedlau hyfryd am fôr-forynion gan Hannah Marie John a Nia Palmer, a ddaeth yn agos at y brig hefyd. Roedd chwedl Nia yn amserol iawn, sef stori am ferch mewn cwrwgl a oedd yn glanhau plastig o’r môr er mwyn i’r fôr-forwyn nofio mewn môr glân. Cawsom stori syml hyfryd am ferch yn dal pysgodyn i’w Mam-gu, gan Beti Whitehead, a ddaeth yn agos at y brig. A chafwyd chwedl ryfeddol a dystopaidd am deithio drwy amser, gan Alexander Fox-Robinson, sef person hŷn talentog iawn a ddaeth yn agos at y brig.

Adroddodd ein henillydd, Hannah Edwards, stori syml iawn ar ffurf lluniau prydferth, heb eiriau, am ddolffin yn achub merch sy’n cwympo allan o’i chwrwgl. Bydd Hannah yn derbyn tocyn rhodd gwerth £10 a llyfr drwy garedigrwydd Cymdeithas Cwryglwyr a Physgotwyr Rhwydi Caerfyrddin, yn ogystal â bag trugareddau gan Oriel Myrddin.

Bydd y cynnig buddugol a’r rhai a ddaeth yn agos at y brig yn cael eu harddangos ar hysbysfwrdd y Gymuned ac Addysg yng nghyntedd yr oriel. A bydd ein cwrwgl – rhan o lwybr cyryglau Caerfyrddin – yn y cyntedd tan 12 Mawrth.

Ganwyd Sarah Poland yn Inverness ym 1974 ac enillodd radd BA o Goleg Celf Caeredin cyn cyflawni MFA yn Ysgol Gelf Aberystwyth yn 2015. Yn hydref 2017, cychwynnodd Sarah Poland ar gyfnod fel artist preswyl yng ngofod arbrofi Oriel Elysium.

Mae Poland yn dweud bod a wnelo’i gwaith ‘yn fawr iawn â materoldeb peintio a’r weithred o beintio. Wrth beintio rydw i eisiau elfen o uniongyrchedd lluniadu: ei ffrwydroldeb, ei grynoder, ei gignoethni a hefyd math o greu marciau nad yw o dan gyfarwyddyd ymwybodol ac sy’n dylanwadu ar gamau cychwynnol a therfynol creu delwedd. Gall paentiadau fod yn rymus, ac ar yr un pryd fod yn ysgafn eu hysbryd – ac mae’r naill elfen a’r llall yn rhan annatod o natur. Rwy’n credu bod natur a’r dirwedd yn gallu bod yn fetaffor o brofiad dynol a bod hynny’n gallu helpu i greu dyfnder canfyddiad’.

Wrth siarad am waith Roger Cecil, dywed Sarah:

“I fi, roedd dull Roger Cecil o fynd ati i greu paentiadau yn debyg i Joan Eardley yn yr Alban – cafodd hi ddylanwad ffurfiannol enfawr arnaf pan oeddwn yn blentyn ac mae ei dylanwad yn parhau. Roedd y ddau ohonynt yn peintio’r dirwedd naturiol ond hefyd yn dangos caledi bywyd dosbarth gweithiol yn ei amgylchedd. Gyda’r naill beintiwr a’r llall, gwelaf nad yw’r ffordd y maent yn croesi’r llinell niwlog honno rhwng haniaeth a pheintio ffigurol, eu defnydd o liw, eu stoiciaeth i beintio waeth beth fo’r tywydd a’u dycnwch o ran eu hymarfer eu hunain, yn newid waeth beth fo’r thema ar y pryd. Mae hynny’n gyson â’m dull a’m hymarfer creadigol i sy’n canolbwyntio ar natur a’m profiad i o fywyd.

Mae fy mhrosiect cyfredol, sydd ar ei 6ed flwyddyn erbyn hyn, yn ymdrin â phrofiad o fyw oddi ar y grid, mewn Stiwdio Nomadig, mewn coetir derw 80 erw yng ngorllewin Cymru.

Rwy’n peintio am fy mhrofiadau dynol i, ac rwy’n credu bod natur a’r dirwedd yn gallu bod yn fetaffor o hyn ac yn gallu helpu i greu dyfnder canfyddiad yn hytrach na rhithganfyddiad. Fel ffordd o weithio drwy syniadau, rwy’n creu cyfres o astudiaethau – byddwn yn mynd am dro drosodd a throsodd, yn cynhyrchu lluniadau, ffotograffau, arsylwadau, gwrandawiadau, teithiau nos gan greu lluniadau ffotograffig o’r lleuad, ymdrochi ym maddon y coed mewn dŵr afon gyda thân oddi tanof, casglu coed, gwneud tanau, gwneud siarcol, nofio yn yr afon, casglu afalau derw i arbrofi â gwneud inc a hynny tra’n cerdded o amgylch a thrwy’r coed. Gwelais osgeiddrwydd anwar panther du hyd yn oed yn symud yn ddistaw, o’m blaen, yn croesi fy llwybr. Er nad wyf yn gweithio’n uniongyrchol o’r astudiaethau hyn, maent yn rhan o ‘drochi mewn ymarfer’, chwarae byrfyfyr parhaus ag iaith weledol, gan weithio ‘yn yr ennyd’ lle mae’r weithred gorfforol o greu yn broses ontolegol, yn rhannol.

Rwy’n credu mai un o’r pethau sy’n gwneud paentiad yn arbennig yw’r ffordd y caiff y canfyddiad o amser ei gloriannu: gall ei hanes fod yn weladwy ond ar yr un pryd mae pob elfen yn gadarn yn y presennol. Wrth beintio rydw i eisiau elfen o uniongyrchedd lluniadu: ei ffrwydroldeb, ei grynoder, ei gignoethni a hefyd math o greu marciau nad yw o dan gyfarwyddyd ymwybodol ac sy’n dylanwadu ar gamau cychwynnol a therfynol creu delwedd.

Lawer gwaith nid oeddwn yn siŵr p’un a oedd y coed yn dawnsio, yn creu cerddoriaeth neu a oeddent yn galigraffeg; mae arsylwadau fel y rhain yn help i ddylanwadu ar fy ngwaith. Roedd yn brofiad llwyr ymdrochol o ran byw a chreu corff o waith – byw yn rhywbeth nes eich bod chi eich hun yn anghofiedig.”

Mwy o gwybodaeth Roger Cecil + 4 Arlunydd Cyfoes


Dydd Sadwrn 17 Mawrth 2018 2pm

Sgwrs yn yr Oriel

Sgwrs rhwng Pedwar Arlunydd Cyfoes

Ymunwch â’r pedwar arlunydd o’n harddangosfa Roger Cecil + 4 Arlunydd Cyfoes er mwyn clywed am eu gwaith a’u hymatebion i waith y diweddar Roger Cecil.

Mynediad am ddim, does dim angen archebu lle.


Llun: Sarah Poland: Dazzling Light 2016, Olew ar lliain

Prosiectau Oddi ar y Safle

O gwmpas y lle

Digwyddiadau Arbennig

Pâr

Cofrestrwch ar gyfer y newyddion diweddaraf