Coed Hynaf

Fel rhan o Ŵyl y Gwanwyn Age Cymru, cynhaliodd Oriel Myrddin sesiwn gelf yn yr awyr agored i archwilio cysylltiadau â natur. Daeth pum tenant o’r cynllun gofal ychwanegol, Cartref Cynnes, yn Nhre Ioan, yn ogystal â Pam, un o wirfoddolwyr Oriel Myrddin, a Heather Birnie sy’n ffotograffydd, i ymuno â’r ein Cyd-drefnydd Celf Gymunedol, Emily Laurens am sesiwn adfyfyriol ar ddarn o dir gwyllt.

Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan Gwanwyn ac mae wedi’i ysbrydoli gan arddangosfa Oriel Myrddin o’r enw Forest + Found: Cerdded y Lein. Mae dau artist Forest + Found yn cael eu hysbrydoli gan eu perthynas â’r tir, gan droedio’r llinell rhwng celf a chrefft. Mae Cerdded y Lein yn cael ei arddangos yn Oriel Myrddin tan 6 Gorffennaf. Mae Gwanwyn yn darparu ffyrdd i bobl hŷn gymryd rhan yn y celfyddydau a’r gweithgareddau creadigol yn ystod mis Mai. Mae’n dathlu’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl hŷn, ac yn hyrwyddo’r manteision yn sgil archwilio creadigrwydd, datblygu llais critigol a chymryd rhan lawn ym mywyd artistig a diwylliannol cymunedau lleol ledled Cymru.

Emily:

“Ar y darn o dir gwyllt rhwng Cartref Cynnes ac Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth, mae yna bwll sydd â llwybr a choed prydferth aeddfed o’i amgylch. Mae yno digonedd o ddail tafol, danadl a blodau menyn ac mae’r cloddiau’n llawn blodau mis Mai a dail newydd. Does dim llawer o ddŵr yn y pwll ond mae llafrwyn pigog yn ymwthio mas o’r mwd. Roedd y tywydd yn berffaith – yn heulog ond heb fod yn rhy dwym, ac roedd awel fach. Safon ni wrth ochr y llwybr er mwyn i’r cyfranogwyr allu ymestyn i lawr a chasglu gweiriau a blodau.

O un i un, daeth y cyfranogwyr i’r llecyn, yn ansicr am beth fyddai angen iddynt ei wneud, ond yn agored ac yn fodlon i roi cynnig ar rywbeth newydd ac anghyfarwydd. Roedd rhai cwynion – nid oedd un o’r cyfranogwyr yn hapus i fod yn yr awyr agored, gan ddweud “Byddai hyn llawer gwell yn yr ystafell grefftau” ac roedd llawer o bobl yn dweud “Alla i ddim tynnu llun” “Alla i ddim gwneud celf”.

Ar ôl cyflwyniadau byr, aethon ni ati i ddechrau ar y gweithgaredd cyntaf. Gyda grwpiau sy’n teimlo’n ansicr a braidd yn bryderus, credaf ei bod hi’n well gwneud gweithgaredd cyn gynted â phosibl. Roedd y sesiwn gyfan yn seiliedig ar archwilio byd natur drwy’r synhwyrau ac i ddechrau roeddwn eisiau canolbwyntio ar sŵn. Roedd hyn yn hynod o werthfawr i un cyfranogwr oedd yn rhannol ddall. Pan ddywedais y byddwn yn darlunio gyda’n llygaid ar gau, chwarddodd gan ddweud “Rwy’n meddwl galla i wneud hynny!”

Felly gyda’n llygaid ar gau ac mewn tawelwch, gwnaethom ddarlunio’r synau o’n hamgylch. Caneuon yr adar duon, y gwynt yn chwythu drwy’r coed, a’r plant yn cael hwyl ac yn gweiddi ym maes chwarae’r ysgol. Gwnaeth y cyfranogwyr ddefnyddio clipfyrddau a ffyn graffit sy’n gallu cael eu defnyddio ar unrhyw ongl a gwneud marciau ar bob ochr iddynt. Roedd y canlyniadau’n haniaethol ac yn ddiddorol a dechreuodd sgwrs ynghylch sŵn: y gwahaniaeth rhwng synau a wneir gan bobl a’r synau naturiol – rhannwyd straeon a gwnaeth pawb chwerthin wrth sôn am y lorïau bin y gellir eu clywed am 4am ynghyd â chôr y bore bach; am y ffordd y mae’r synau o’n hamgylch yn dueddol o godi a gostegu, hyd yn oed eiliadau o ddistawrwydd, ar ôl i chi ddechrau sylwi.

Ar ôl sŵn, gwnaethom ganolbwyntio ar y synhwyrau gweledol, gan fod yn ymwybodol bob amser o alluoedd amrywiol y cyfranogwyr. Mae’n hawdd gorlwytho’r synhwyrau ym myd natur, gan fod cynifer o bethau i edrych arnynt a chymaint o fanylder. Er mwyn ystyried hyn, edrychom drwy ffenestri, gan roi lluniau mewn fframiau a thynnu lluniau â llygad ein meddwl – golygfeydd yn y pellter, lluniau agos, a phatrymau. Er bod y gweithgaredd hwn yn syml iawn gwnaeth y cyfranogwyr ei fwynhau’n fawr, gan fanteisio i’r eithaf ar y cyfle i edrych yn fanwl a gwireddu grym fframio llun. Wedyn gwnaethom ddathlu’r gwyrddni o’n hamgylch, drwy gasglu dail, eu torri a’u glynu wrth dâp dwyochrog i gymharu’r lliwiau, gweld graddiannau ymysg y gwyrddion o dywyll i olau. Roedd hwn yn ymarfer a oedd yn edrych yn fanwl ac yn sylwi ar y pethau y mae ein llygaid yn eu hanwybyddu fel arfer.

Wrth i ni symud ymlaen i’r synhwyrau yr ydym yn eu defnyddio’n llai aml ar lefel ymwybodol – arogli a chyffwrdd – newidiodd yr awyrgylch. Ymlaciodd y cyfranogwyr, gan rannu straeon personol o’u perthynas â byd natur, a chael atgofion wrth arogli pethau a chyffwrdd â nhw. Roedd yna ymdeimlad o ymgolli’n llwyr a chanolbwyntio ac roedd y cyfranogwyr fel pe baent yn llai ymwybodol o Heather a’i chamera.

Yn ystod gweithgaredd arall â llygaid ar gau, gwnaeth Pam a finnau ddosbarthu pethau o fyd natur – rhosyn o’m gardd, cerrig o’r traeth, cregyn. Gwnaeth y cyfranogwyr gydio yn y pethau a’u teimlo, gan ddweud y geiriau a oedd yn dod i’w meddwl. Cydiodd Gwynedd mewn pluen a dywedodd “Cyfeiriad, mae cyfeiriad yn hollbwysig i’r peth hwn”. Dywedodd Margaret, wrth gyffwrdd â’r gragen las, “cwch fferi, ddim yn berffaith, odrwydd”. Roedd Audrey wedi bod yn amharod iawn ar ddechrau’r sesiwn, ond wrth iddi roi’r rhosyn ar ei hwyneb, gan deimlo’r petalau ar eu bochau, dywedodd “Croen baban, croen baban newydd-anedig”. Wedyn, soniodd wrthym am ei gyrfa hir fel bydwraig a chymaint yr oedd hi’n dwlu ar afael yn y babanod newydd.

Roedd arogl a blas y garlleg gwyllt yn gwneud i Audrey rannu straeon am ei mam-gu, a oedd yn dwlu ar fyd natur ac a fyddai’n mynd â hi am deithiau cerdded drwy ddolydd ac yn dysgu enwau’r blodau gwyllt iddi a’r ffyrdd o chwilio am fwydydd gwyllt a’u coginio. Wrth gyffwrdd â charreg fach lefn, soniodd Charlie wrthym am ei blentyndod yng Nglanyffferi, y coedwigoedd a’r traethau. Roedd yn cadw gwiber yn y tŷ am gyfnod, a roddodd sioc i’w fam a ddaeth o hyd iddi yn ei ystafell wely!

Ar ddiwedd y sesiwn, gwnaethom fwynhau’r awel, a gwylio petalau a hadau’n chwythu yn y gwynt. Ysgydwodd Gwynedd betalau blodau mis Mai, a arhosodd yn ei gwallt fel conffeti, a thaflodd Audrey ei phetalau rhosod mewn eiliad o lawenydd.”

Bydd arddangosfa o rai o’r lluniau o’r sesiwn gan Heather Birnie ar gael i’w gweld yn The Warren, Heol Mansel, Caerfyrddin, tan 23 Mehefin.

Prosiectau Oddi ar y Safle

O gwmpas y lle

Cofrestrwch ar gyfer y newyddion diweddaraf