Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod: Angela Maddock

 

Ein harddangosfa nesaf yn Oriel Myrddin yw Angela Maddock: Sometimes all you can do is walk; ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, gofynnom i Angela ddweud wrthym am rai o’r menywod yn y celfyddydau sy’n ei hysbrydoli hi.

“Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn mynegi empathi, gofal, tosturi a galluogi. Gweithio a meddwl drwy arferion a phrosesau tecstilau. Gweithio i ddod â’r distawrwydd, yr iaith gudd sy’n gysylltiedig ag ymarfer tecstilau, i amlygrwydd… ac ymchwilio i’r pleser sy’n perthyn i wneud a gwisgo tecstilau a’i arferion.

O, mae cynifer o fenywod ym myd y celfyddydau i gymryd ysbrydoliaeth ohonynt! Heb betruso rwy’n cynnwys yn y rhestr hon Judith Scott, Louise Bourgeois, Annette Messager, Erin Riley, ac Annie Mae Young a menywod Gee’s Bend.

Mae gan bob un synnwyr anhygoel o’r hyn sy’n ein clymu ac ystyr ‘stwff meddal’ a’r hyn y gallent fod. Gwelaf eu gwaith ac rwy’n teimlo uwchben fy nigon, wedi fy mrawychu, yn ofidus ac wedi fy ysbrydoli ar yr un pryd. Mae hynny mor dda. Maent oll yn gwneud imi eisiau gwneud, dyna sy’n allweddol. Dylech adael gwaith rhywun yn teimlo eich bod eisiau mynd ati i wneud rhywbeth eich hun. Ac mae cwiltiau Gee’s bend yn rhai gwirioneddol hardd wedi’u gwneud o’r hyn sydd wedi’i daflu’n aml. Trawiadol yn wir.

Byddwn hefyd yn cynnwys llawer o fenywod ‘tu ôl i’r llenni’, rhai sydd â gweledigaeth benodol nad ydynt o reidrwydd yn enwog ac sy’n gwneud cymaint i newid pethau, datblygu eraill. Yn rhy aml cânt eu hanghofio – athrawon gwych, hwyluswyr, gweinyddwyr. Byddwn yn cynnwys fy ffrind Kate Dunton, sy’n gweithio yn yr Athrofa Ddiwylliannol yn King’s, yn eu mysg, a’m merch sy’n fy atgoffa mor aml nad oes yn rhaid i fentora da ddod gan y rheiny ymhellach i lawr y ffordd. Hoffwn i fod fel yr holl fenywod hyn, tipyn o gamp!”

 

Dr Angela Maddock, Darlithydd annibynnol, arlunydd/gwneuthurwr, sydd ar hyn o bryd yn gweithio fel ‘Gwneuthurwr Preswyl’ gyda Chyfadran Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gofal Lliniarol Florence Nightingale yng Ngholeg King’s, Llundain. Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus yng Ngholeg Celf Abertawe.

_______________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________

Angela Maddock: Sometimes all you can do is walk

30 Mawrth – 11 Mai 2019

 

Digwyddiad agoriad: Dydd Sadwrn 31 Mawrth 2019 11am – 1pm

Dilyn ôl ei Thraed

Ar 6 Hydref 2018, dechreuodd Angela gerdded o Gaerfyrddin i Middlesbrough. Dilynodd Ruby thaith ei mam o bell. Yn y digwyddiad ‘In Conversation’ hwn, maent yn ein gwahodd ni i ymuno â nhw wrth iddynt edrych ar dystiolaeth siwrnai epig – ei hanesion, ei heriau, y dystiolaeth a gasglwyd, a ddychwelwyd ac a drawsnewidiwyd a’r hyn a allai ei olygu i ‘ddilyn ôl ei thraed’.

Ymunwch â ni ar Sul y Mamau am basteiod a choffi bore Sul gyda’r artist, Angela Maddock a’i merch, Ruby Maddock (Cynorthwyydd Ysgolion sy’n Dysgu Tate, awdur ac artist) ar gyfer digwyddiad anghonfensiynol ‘In Conversation’ i agor ein harddangosfa newydd.

 

Digwyddiad am ddim, nid oes angen i archebu eich lle, croeso i bawb (mamau a merched yn ddewisol!)

 

 

 

 

 

 

Gadael sylw

*

Prosiectau Oddi ar y Safle

O gwmpas y lle

Digwyddiadau Arbennig

Coed Hynaf

Cofrestrwch ar gyfer y newyddion diweddaraf