Roeddem yn falch iawn o gynnal gweithdy gydag Ysgol Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin a myfyrwyr Dylunio Cynnyrch o Goleg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gyda Dr Peter Spring.
Darparodd y coleg celf beiriannau argraffu 3D ar gyfer y diwrnod a chyfunwyd cydrannau printiedig â deunyddiau wedi eu hailgylchu ac eitemau y daethpwyd o hyd iddynt i wneud casgliad o gadeiriau bychain.
Cafodd y gweithdy ei ysbrydoli gan ein harddangosfa Cadair sy’n dangos dyluniadau cadeiriau clasurol o Amgueddfa Ddylunio Llundain, yn ogystal ag Amgueddfa Sir Gaerfyrddin a chasgliadau lleol.
Gadael sylw