Dyfarnwyd Gwobr Luniadu Peter Prendegast i Catrin Llwyd Evans yn ei blwyddyn sylfaen yng Ngholeg Menai yn 2008, cyn iddi ennill gradd mewn Celfyddyd Gain gan Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd, yn 2010. Mae ei phaentiadau’n edrych ar y dirwedd ddiwydiannol a’r hyn na ellir ei weld, pethau bob dydd a chyffredin mewn modd arluniol, llac, sydd ar adegau’n tueddu tuag at yr haniaethol.
Wrth siarad am waith Roger Cecil, dywed Catrin:
“Dim ond yn ddiweddar rydw i wedi dod ar draws gwaith Roger Cecil. Er hynny, rwy’n credu y bydd ei ddylanwad ar fy ngwaith yn para am byth. Cefais fy nenu at y gwaith ar unwaith, nid dim ond gan y lliwiau a’r ffurfiau ond hefyd yr hyder sydd i’w weld yn ei luniau, yn enwedig y gweithiau llai a greodd ar bapur. Mae’r ffordd y mae’n mynd ati i beintio yn f’ysbrydoli i fod yn feiddgar ac yn ddewr, i beidio â dilyn rheolau ac arferion traddodiadol ac i fwynhau’r broses ryfeddol o beintio.”
Mwy o gwybodaeth Roger Cecil + 4 Arlunydd Cyfoes
Dydd Sadwrn 17 Mawrth 2018 2pm
Sgwrs yn yr Oriel
Sgwrs rhwng Pedwar Arlunydd Cyfoes
Ymunwch â’r pedwar arlunydd o’n harddangosfa Roger Cecil + 4 Arlunydd Cyfoes er mwyn clywed am eu gwaith a’u hymatebion i waith y diweddar Roger Cecil.
Mynediad am ddim, does dim angen archebu lle.
Llun: Catrin Llwyd Evans: Fence 2017, Olew ar fwyrdd
Gadael sylw