Sgwrs a gweithdy gyda Lucille Junkere

Dydd Gwener 18 Awst 2017, 7pm

Sgwrs yn yr oriel gan Lucille Junkere

The Yoruba Blues – The art of indigo dyeing in Nigeria

Mae Lucille Junkere yn dychwelyd i’r oriel i siarad am ei thaith lliwio indigo ers ei chyfnod preswyl yn y William Morris Gallery. Yn ddiweddar teithiodd i Nigeria trwy Gymrodoriaeth Winston Churchill lle bu’n astudio technegau lliwio indigo ymysg crefftwyr Yoruba. Àdíre yw’r gair Yoruba ar gyfer y brethyn sydd yn cael ei liwio gan broses lliwio ‘gwrthsefyll’ ac sydd yn cael ei wneud mewn trefi Yoruba yn Nigeria. Mae’r tecstil yn gweithredu fel mynegiant esthetig ac yn fodd o gyfathrebu, gan gynnig golwg ddwfn ar grefydd, diwylliant, llên gwerin a hanes y bobl Yoruba. Bydd ei sgwrs yn cynnwys fideos byr, ffotograffiaeth, cerddoriaeth a gwaith indigo gan Lucille ei hun.

Mynediad am ddim

 


 

Dydd Sadwrn 19 Awst 2017, 11am-4pm

Gweithdy gyda Lucille Junkere

Gwneud patrymau indigo gyda dulliau wedi ysbrydoli gan broses tecstilau Àdíre o Nigeria

Byddwch yn dysgu sut i greu a chynnal rysáit indigo diwenwyn syml y gallwch ail-greu yn y cartref. Bydd y rysáit yn eich galluogi i liwio ffibrau planhigion fel cotwm a lliain. Byddwch hefyd yn dysgu amrywiaeth o dechnegau gwneud patrymau wedi ysbrydoli gan liwio ‘gwrthsefyll’ traddodiadol Nigeria i greu eich samplau indigo hyfryd eich hun y gallwch fynd adref a’u ddefnyddio ar gyfer eich prosiectau.

 

Y Gost: £25 yn cynnwys defnyddiau

Addas ar gyfer oed 16+

Rhaid archebu lle, 01267 222775

Dewch a ffedog neu gwisgwch hen ddillad, pâr o fenig rwber a  bagiau plastig i fynd a’r samplau adref.

Gadael sylw

*

Prosiectau Oddi ar y Safle

O gwmpas y lle

Cofrestrwch ar gyfer y newyddion diweddaraf