Gwneuthurwr Dan Sylw: Stephen R Hughes

Ein Gwneuthurwr Dan Sylw yn Gorffennaf – Hydref 2017 yw’r dylunydd tecstilau, Stephen R  Hughes.

Mae gwaith Stephen yn ystyried potensial dulliau annisgwyl ac anghyfarwydd i greu gwaith celf gwreiddiol ar gyfer sgarffiau moethus cyfoes a phrint ffasiwn.

Yn aml defnyddir dulliau sy’n gyfarwydd o ran arferion stiwdio celf gain i greu amrywiaeth o ffabrigau haniaethol. Mae ei ddyluniadau unigryw yn cael eu creu â llaw ac wedyn yn cael eu paentio a’u printio’n ddigidol ar wlanau a sidanau yn y DU. Mae’r ffabrig wedi’i brintio sy’n llawn marciau mynegiannol ar wahanol raddfeydd yn ceisio manteisio ar y gorgyffwrdd rhwng celfyddyd fawr a ffasiwn masnachol wrth ei wisgo. Mae ei gasgliad ‘Imbalance’ yn edrych ar bedwar syniad dylunio allweddol sydd hefyd yn adlewyrchu diddordeb personol mewn diwylliant cymdeithasol a gwleidyddol sy’n datblygu.

Mae Stephen yn byw ac yn gweithio yn Ne-orllewin Cymru.

 

 

Bydd y gwaith ar werth. Drwy brynu gwaith celf, rydych yn cefnogi arlunydd/artist unigol. Rydych hefyd yn helpu Oriel Myrddin i fod yn fwy cynaliadwy yn ariannol.

Mae Collectorplan (cynllun prynu di-log) ar gael.

Save

Save

Save

Save

Save

Gadael sylw

*

Prosiectau Oddi ar y Safle

O gwmpas y lle

Digwyddiadau Arbennig

Y Darlun Mawr: Gwehyddu Enfawr!

Register for updates