Clwb Llyfrau Ephemeral Coast yn Oriel Myrddin

Ochr yn ochr â’n harddangosfa Oceans:Surface/Below (rhan o’r gyfres Ephemeral Coast yn Ne Cymru) byddwn yn darllen The Rings of Saturn gan W.G. Sebald. Mae’r llyfr yn gyfuniad anarferol o’r gwir a’r gau yn dilyn taith gerdded ar hyd arfordir East Anglia ond mae’n ymwneud ag amrywiaeth eang o bynciau a ysgogir gan y dirwedd newidiol. Mae wedi’i drefnu ar ffurf penodau sy’n cysylltu’n fras â’i gilydd ac felly gallech chi ddarllen darnau o’r llyfr yn unig neu bob un dudalen.

‘A highly original work…part memoir, part fiction, part meditative essay writing, and finally an essay for the dispossessed.’ Sunday Telegraph

‘A great, strange and moving work’. James Wood, The Guardian

 

Ymunwch â ni am drafodaeth gyfeillgar a arweinir gan Kirsten Hinks Knight. Mynediad am ddim gan gynnwys te a chacen .

 

Gadael sylw

*

Prosiectau Oddi ar y Safle

O gwmpas y lle

Digwyddiadau Arbennig

Arddangosfa Criw Celf 2017

Register for updates