Gwasgwch y botwm ‘chwarae’ i glywed atgofion o’r diwrnod golchi gan bobl hyn sy’n rhan o gynllun gofal ychwanegol Cartref Cynnes, yn siarad gyda’r artist penny d jones.

Gweler y testun isod:

Un o’r pethau mwyaf pwysig yw fod rhaid iddyn nhw fynd mewn i rhyw lyfrgell, fel bod ni ddim yn anghofio nhw. Ni’n dod i oedran nawr, ond mae’r atgofion sydd gen i yn mynd nol i’r pedwardegau a felly mae gen i atgof o fy mamgu yn golchi mewn padell bren a ‘rubber’ gyda hi yn y bac oedd islaw. Roedden ni byw mewn pentref diwydianol er o’n ni mewn strydoedd cul ond mae’n amlwg oedd y golchi i gyd yn cael ei wneud y tu allan i’r tŷ, achos doedd dim teclunau  i gael sy gyda ni heddiw.  Ag yn yr amser hynny hefyd roedd lot o bethau yn digwydd ar y glo tan oedd yn berwi y dillad i nhw gael disgleirio yn wyn ar y lein a  rhan o hwnnw hefyd oedd startsh. Roeddech chi’n gorfod gwneud y startsh. Fel plentyn bach dwi’n cofio helpu mamgu i wneud hyn. Rydych chi’n gwneud y startsh oedd e’n dod mewn pecyn Robin. Roeddech chi’n dodi llond llywed startch mewn bowlen, ychydig o ddŵr bewr a roeddech chi’n gadael i oeri a’i wneud i pa ansawdd oeddech chi moyn y startsh. Os oedd rhwbeth oedd eisiau coleri gwyn gyda lês byddai eisiau startsh trwm. Ar gyfer Bonedi plant bach, a nhw’n ffrils i gyd, byddech chi’n dodi fe mewn yn yn starsh cryf. Os oedd rhwbeth ysfgafn byddechchi’n dodi startsh siwgr mewn dillan, ond roedd hwnna’n dod mwy yn y 60au, amser ro’n ni’n dawnsio mewn dillad ffrils i gyd.

Fi’n cofior bag ‘blue’ , ‘blue bag’. Roedd hynny’n mynd mewn i’r dŵr, a roeddech chi’n cael tawch bach o lesni ar y dŵr, i wneud iddynt ddisgleirio’n wynach. Roedd hynny’n broses hir a gweud y gwir, roedd hin ddiwrnod o olchi, ac os oedd hi’n bwrw glaw, wel, roedd hi’n ddiflas!  

Roedd rhaid golchi dydd llun. Roedd ansawdd i bob diwrnod yn yr hen amser. Dydd Llun oedd diwrnod golchi. Smwddio ar dydd Mawrth, a dydd Gwener oedd diwrnod crasu. A crasu bara, bydde chi’n dod mewn adre o’r ysgol, a roedd arogl y bara i gyd. Roedden nhw’n dechrau wrth ddrws y bac, a roedd y bara yn codi, a rhywun yn gweiddi “peidiwch a cau’r drws yna, peidiwch a gadael yr awyr i ddod mewn, neu bydd y bara yn mynd lawr”.

Cefais i’n magu yn y Tymbl. A cyn hynny roeddwn i’n lle o’r enw Capel Seion, a roedd gen i tair mamgu, hen famgu a dwy famgu, a roeddwn i’n rhedeg mewn i’w cartrefu i gyd felly nes i ddysgu llawr wrthyn nhw, achos fod pobl yn dysgu wrth pobl sy’n henach.

Roedd golwyr yn fy nheulu i, roedd fy nhad yn gweithio yn y gwaith glo. Gôf oedd fy nhad, yr amser yna roedd o’n pedoli ceffylau oedd yn mynd dan ddaear, a roedd yna ddillad brwnt iawn ganddyn nhw. Os gallwch chi feddwl am teulu fy nhad, roedd yna un ar ddeg o blant, ac wyth ohonyn nhw yn ddynion yn gweithio yn y gwaith glo, a faint o olchi oedd i wneud?

Ffermwyr oedd yn fy nheulu i, dynion gwaith caled, lot o olchi, yn y gogledd.Cofiwch Traed Mewn Cyffion gan Kate Roberts, roedd pobl yn gweithio yn y chwarelu, a mae’r glwyr y y de! Tipyn o waith cael nhw’n lân siŵr o fod.

Ac wrth gwrs yn pentrefi’r glofeydd fe gewch chi strydoedd cul. Yn ffodus yn y Tymbl roedd yna stryd llydan, ac felly roedd hi fel ‘motorway’, ond roedd yn nhadcu yn dweud fod ni’n lwcus yn y Tymbl, oherwydd fod y stryd fawr (yr ‘highstreet’) ddim yn agos at eu gilydd. Amser cas ei adeiladu roedd afon yn mynd lawr ac felly roedd rhaid i nhw ymestyn y strydoedd, a roedd y tyddynnod yn dal i fod yno, ond roedd eu ffordd o fyw bach yn wahanol. Tyddynod bach oedden nhw a doedd ddim lle gyda nhw. A roedd hi’n braf i edrych lawr y stryd hynny ar ddydd golchi achos roeddech chi’n gweld y dillad i gyd.

A sut o’n nhw cael y dillad yn lan? Wel roedd y rwber, a roedd y doli. Wedi gwneud o gopr, a roedd dolen arno, a roeddwn i’n defnyddio fe ar gyfer lot o bethau hyd yn ddiweddar, ond ornament ydyw hi nawr. A pan fo’r plant yn dod mae’n nhw’n dweud, “o mae angueddfa gyda ti Margret!”

Roedd y doli yn mynd mewn i’r badell pren, a’r dillad yn y gwaelod, ac yn lle bo’ chi’n rhoi eich dwylio mewn i’r dwr roedd y doli yn pwno’r dillad, lan a lawr, lan a lawr, lan a lawr.

Corduroi neu melfaréd oedd y dillad?

Roedd dull arall o olchi brethyn gwlân, a roedd trwsus yn fwy trwchus eto yn mynd i’r gwaith glo, Roedd crys gwlanen wrth gwrs. Roedd crys gwlanen gan fy nhadcu, a’r coleri i gyd ar wahân, a rheini’n hongian i sychu. Roedden nhw’n tynnu’r chwys, ddim fel y defnyddiau heddi. Dwi’n hunan ddim yn hoffi defnyddiau synthetic, achos mae’n tynnu chwys, mae’n creu arogl gwael gyda’r corff. Ond roedd gyda ni gwlân, brethyn cartref, a roedd y dillad yn cael eu gwneud – gwniadwraig oedd fy mam, felly roedden nhw’n gwneud y crysau i gyd, ond yn prynu’r coleri. Coleri gwyn gyda stydiau.

Doedd dim dynion yn ein tŷ o gebl, achos roedd dad wedi marw pan oeddwn i’n dair, roedd mam wedyn wedi mynd rownd ffermydd. Rwy’n cofio un ffarm roeddwn i’n golchi, glanhau’r tŷ i gyd a smwddio, am coron i gyd.

Beth yw coron nawr? 50p?

Sut oedd hi’n sychu ar ddiwrnodau gwael? Byddai methu smwddio yn y prynhawn.

Fi’n cofio’r spin dryer cyntaf yn ein tŷ ni. Dyma’r teclun cyntaf, wedi neud gan Hoover, yn siglo o gwmpas. Felly roedd hwna yn gwella pethau, roeddwn i’n bwty deg mlwydd oed pan ddoth hynny, felly roed hynny rhyw 60 mlynedd yn ôl.

Ond dwi’n cofio’r peiriant golchi cyn trydan chi’n gwbod? Roeddech chi’n ei droi, a roedd y mangl unwchben. Fi’n cofio mam wastod yn dweud, “ dwylo bach, bydd yn ofalus gyda’r mangl”, gall fy nwylo bach i fynd mewn i’r mangl. Ond doedd dim trydan. Roedd hi’n flinedig iawn!

Weithiau roedd mangl ar wahân, falle tu fas, mas yn y bac, yng ghefn y ty, a roedd hwnw ar stondyd, a roeddech chi’n dodi pethau fel sheets gwely, ac unrhywbeth trwm mawr, a pan oeddwn i’n blentyn bach un o’r pethau cyntaf dwi’n cofio “ sa di yna nawr, a gelli di troi y ringer”, a gallwch chi fwydo’r dillad i mewn a padell oddi tano yn cymeryd y dŵr. A’r unig gwaith fwy caled oedd corddi’r menyn, troi’r fyddau fawr, byddai’n waeth na golchi!

Cyn dyddiau’r sebon a golchi, mae yna gerdd ‘Crys y Mab’, o’r 15fed Ganfrif yn sôn am ferch yn golchi crys ei chariad odan bont Aberteifi, “fel yr oedwn yn golchi dan ben pont Aberteifi, a golchffon aur yn fy llaw”, nawr tybed beth yw golchffon? Efallai rhywbeth tebyg i’r rwber? “ a chrys fy nghariad dano”. A beth oedden nhw’n gwneud heb sebon?

Roedd Halen yn cael ei ddefnyddio i gymeryd smotyn allan.

Mae gwahanol sebonau dros y flynyddoedd, roed Carbolic soap, Lifebuoy Soap, Puritan, a doedd dim pwdwr golchi. Felly roed gyda chi blocyn o sebon caled.

 

Mae’r arddangosfa Notorious, gan Anthony Rhys ( 9 Ionawr – 12 Mawrth 2016) yn dangos cyfres o bortreadau pwerus wedi eu hysbrydoli gan straeon go iawn a ffotograffau o Archifau Caerfyrddin. Mae’r arddangosfa hon yn cynnig cyfle gwych ar gyfer defnydd trawsgwricwlaidd gan ei fod yn cyffwrdd ar hanes lleol Cymru Fictoraidd, llythrennedd, materion cymdeithasol a moesol yn ogystal â chelf weledol.

Archebwch daith dywys am ddim o’r arddangosfa gyda’n staff addysg a lawrlwytho’r adnodd ystafell ddosbarth rhad ac am ddim i’w defnyddio yn yr ysgol .

Adnodd ysgolion Drwg-enwog

Adnodd Drwg-enwog i Ysgolion

Cliciwch yma i lawrlwytho’r templed papur newydd Drwg-enwog

Templed Papur Newydd

Anfonwch gopïau o bapurau newydd gorffenedig eich grŵp i chynnwys yn ein oriel ar-lein .

 

Ffilmiau diolch i Amgueddfa V & A

Grayson Perry yn sgwrsio am ei argraffiadau o’r Athro Richard Slee

Grayson Perry Discusses a Richard Slee yn sgwrsio am y darn ‘Sausage’

Richard Slee a Grayson Perry yn sgwrsio am ‘Landscape with Hippo’

 

https://orielmyrddingallery.co.uk/cy/2015/07/4291/

I gyd-ddigwydd ag arddangosfa o baentiadau gan Andre Stitt sy’n artist perfformio o fri rhyngwladol, fe wnaethom ofyn i Kate Dunwell sy’n artist ffotograffig ac arweinydd gweithdai ddyfeisio gweithdy a fyddai’n cynnwys elfennau o berfformio a gwneud marciau mewn modd ffres a chyfoes.

“Y syniad y tu ôl i’r gweithdy oedd creu delweddau hwyliog a diddorol, gan edrych ar wneud marciau a symudiadau a’r ffordd y gall eich corff greu cyfansoddiad mewn modd syml ond effeithiol drwy ddefnyddio dull y gallwch ei ailgreu gyda’ch camera chi gartref – techneg ffotograffig syml sy’n defnyddio amser dinoethi hir/agored ar y camera a symud goleuadau er mwyn tynnu llun.” Kate Dunwell

Cynllun y Prosiect:red light

Addas ar gyfer: 8 oed a hŷn (gallech wneud hyn gydag unrhyw oedran os oes gennych ddigon o staff ac offer)
Maint y grŵp: 15
Hyd y gweithdy: 2 awr

Yr hyn sydd ei angen arnoch:

  • Tortshis, goleuadau bach neu oleuadau beic a bwerir gan fatris
  • Camerâu digidol (fe wnaethon ni ddefnyddio 2 gamera digidol SLR ond byddai’r rhan fwyaf o gamerâu digidol syml yn gweithio)
  • Lle tywyll
  • Gall ategion fod yn hwyl e.e. bocs gwisg ffansi
  • Cyfleusterau argraffu (os na allwch argraffu yna fe allech wneud sioe sleidiau digidol)

paratowch 2 weithfan:moustache

  1. Trybedd sefydlog gyda’r camera wedi’i osod ar amser dinoethi hir mewn lle tywyll. Bydd un person yn tynnu’r llun, tra bydd rhai eraill yn symud goleuadau o flaen y camera.
  2. Camera sefydlog gyda fflach ymbarél. Ar ôl paratoi hyn cyflwynais focs gwisgo lan i greu portreadau anarferol, gan ddefnyddio’r tortshys i dynnu llun mwstashis, sbectolau a chalonnau o gwmpas eu hwynebau.

Roedd sawl un wedi dod â chamera a dangosais iddynt sut i ddod o hyd i’r gosodiadau cywir.

Y Cam Olaf:

Am yr hanner awr olaf buom yn dewis eu holl ddelweddau, a’u hargraffu ar bapur pwrpasol a’u mowntio er mwyn iddynt fynd â nhw adre!

Cyngor Da 1:

camera_settingI ddod o hyd i ddinoethiad hir ar gamera digidol bach/camera sydd gan bobl gartref – edrychwch drwy’r ddewislen golygfeydd a dewiswch ddull nos.

Cyngor Da 2:

Gallwch greu effaith gwych arall drwy ddefnyddio dinoethiad hir wrth i gar yrru heibio a byddwch yn cael llinell hir o olau yn dangos i ba gyfeiriad mae’r car yn teithio, yna gallwch baentio prif oleuadau’r car.

Cyngor Da 3:

I gael cefndir technegau paentio â golau gallwch ymchwilio i waith artistiaid yr 20fed ganrif megis Man Ray, Gjon Mili ac 1914 Frank a Lilian Gilbreth.

green light

Kaleidoscope coloursEr mwyn archwilio defnydd bywiog a hyderus o liwiau mewn arddangosfa o waith newydd gan yr artist poblogaidd o Abertawe, Glenys Cour, roeddem wedi cynnal gweithdy creu Caleidosgop yn ystod gwyliau Nadolig 2012!

Drwy wneud prism syml, trawsffurfiwyd y paentiadau yn batrymau geometrig newidiol a chyfareddol!

Yr hyn sydd ei angen arnoch:

  • 2 diwb cardbord o wahanol feintiau sy’n ffitio i’w gilydd
  • Drych plastig
  • Pren mesur
  • Pensel
  • Tâp gludiog clir
  • Lensys plastig neu ddysgl Petri
  • Gleiniau a secwinau
  1. Mesurwch a chrafwch linellau ar gefn y drych plastig a fydd yn caniatáu ichi ei blygu’n brism a fydd yn ffitio y tu mewn i’r tiwb llai.
  2. Plygwch y drych plastig yn brism a fydd yn ffitio y tu mewn i’r tiwb llai a’i lynu â thâp.
  3. Rhowch leiniau a secwinau yn y ddysgl Petri neu’r lensys plastig a’u selio â thâp gludiog clir.
  4. Glynwch y lens sydd wedi’i llenwi â gleiniau i’r tiwb mwy a gosodwch y tiwb mwy ar ddiwedd y tiwb llai.
  5. Addurnwch eich caleidosgop!
  6. Defnyddiwch eich caleidosgop i ryfeddu at y byd o’ch cwmpas!

Download insructions in PDF format

 

Production steps

Prosiectau Oddi ar y Safle

O gwmpas y lle

Digwyddiadau

Pypedau’r Parêd…

Cofrestrwch ar gyfer y newyddion diweddaraf