Ruptures, 2017

Ffrâm dur gwrthstaen, addurno â pheiriant a brodwaith llaw ar liain

“Rwy’n rhoi heibio’r angen i fod yn gyflawn. Mae pwythau fy ngwneuthuriad yn llacio. Mae’r ymledu’n ffrwydro’n rhwygiadau diddiwedd o bilennau. Ac mae fy màs yn arllwys allan ohonof fel haenau o afael a thynnu. Mae’r llanw’n isel. Pa siapiau fydd yn fy mhoeni nawr?”

Wrth greu ‘Ruptures’ rwy wedi dychwelyd at themâu sydd wedi codi dro ar ôl tro yn fy ngwaith – deuoliaeth, lle, iaith a gwrthdaro. Yn fy ngwaith rwy’n defnyddio pwythau a marciau sylfaenol i greu canlyniad gweledol. Ailadrodd a rhythm yw’r hyn sy’n fy nenu i. A man lle mae’r tirweddau mewnol ac allanol yn cyfuno, lle mae modd dod â’r cyffredin a’r anghyffredin yn nes at ei gilydd.

Wedi’i geni yn Lithuania, mae Indre Eugenija Dunn bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghymru. Enillodd Indre ei gradd BA (Anrhydedd) mewn Ymarfer Tecstilau Cyfoes ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2011 ac oddi ar hynny mae hi wedi arddangos ei gwaith yn ne a gorllewin Cymru.

 

Wedi’i geni yn Lithuania, mae Indre Eugenija Dunn bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghymru. Enillodd Indre ei gradd BA (Anrhydedd) mewn Ymarfer Tecstilau Cyfoes ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2011 ac oddi ar hynny mae hi wedi arddangos ei gwaith yn ne a gorllewin Cymru.

PERTHYN, 2017

Gwlân oen a chotwm wedi’u gwehyddu â llaw

 

“Mae’r ymdeimlad o berthyn yn anodd ei ddisgrifio. Teimlad isymwybodol o fod yn gartrefol; teimlo’n gyfforddus yn eich cynefin naturiol.

Dechreuodd fy niddordeb mewn tecstilau yn gynnar iawn pan oeddwn yn cael fy magu mewn pentref bach yng ngorllewin Cymru oedd â dwy felin wehyddu. Mae creu’r darn hwn wedi gwneud imi sylweddol gymaint o ddylanwad y mae’r patrymau Cymreig traddodiadol wedi’i gael ar fy ngwaith.

Rwyf wastad wedi cael fy nenu at liwiau cyfoethog ac wedi mwynhau chwarae gyda chyfuniadau o liwiau.

Mae’r garthen wedi’i gwehyddu yn ymgorffori awyrgylch a hanfod y patrymau traddodiadol rydyn ni wedi’u gweld gan ddiwydiant gwlân Cymru.

Mae’r garthen yn syml ond eto’n soffistigedig, gan ganiatáu i’r lle a’r manylion sy’n rhan annatod o’m hamgylchedd i fod yr un mor amlwg yn y defnydd.

Cafodd y darn hwn ei wehyddu â law ar wŷdd draddodiadol.”

 

Dylunydd tecstilau ym maes gwehyddu yw Llio James, a hithau wedi ennill ei sgiliau cychwynnol o Ysgol Gelf Manceinion cyn cwblhau MA Astudiaethau Dylunio mewn Ffasiwn a Thecstilau ym Mhrifysgol Caerfaddon. Ers hynny mae wedi mynd ymlaen i weithio yn y diwydiant gwehyddu yn UDA a’r Alban, gan ddychwelyd yn fwy diweddar i Gymru, lle mae’n awyddus i ddatblygu’r berthynas rhwng gwehyddu â llaw a’r diwydiant gwlân yng Nghymru.

A hithau’n gweithio ar hyn o bryd fel arweinydd cwrs rhan-amser a thiwtor gwehyddu yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, mae Llio hefyd yn gweithio ar gomisiynau a phrosiectau ar y cyd yn ogystal â datblygu ei chrefft gwehyddu â llaw.

Mae Llio wedi dangos ei gwaith mewn arddangosfeydd ledled Cymru ac wedi cael gwobrau gan gynnwys swydd dan y ‘Cynllun Mynediad i Waith’ gyda Grŵp Tecstilau Macnaughton yn Perth, yr Alban gan The Worshipful Company of Weavers; ysgoloriaeth gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen ac Ysgoloriaeth Celf, Dylunio a Thechnoleg yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2011.

Mae cyfleoedd eraill wedi cynnwys gweithio fel technegydd gwehyddu i Wersyll Celfyddydau Perfformio a Chreadigol Buck’s Rock, Connecticut yn 2008; interniaeth gyda KOVA Textiles, Dinas Efrog Newydd, yn 2009 – 2010 a lleoliadau gwehyddu gyda Melin Tregwynt yn Sir Benfro a Chanolfan Dreftadaeth Gŵyr yn 2010.

A Phoenix Yet in Flames, 2016

Brodwaith ar ddefnydd cymysg

Mae Rhiannon yn creu naratifau gweledol drwy frodwaith, gan archwilio’r berthynas rhwng pobl a’i gilydd, a theimladau o gariad, ofn, perthyn, brad a thrasiedi. Fe’i hysbrydolir gan chwedlau Celtaidd ei gwreiddiau Cymreig, yn arbennig y casgliad chwedlau yn ‘Y Mabinogion’. Câi’r chwedlau canoloesol hyn eu trosglwyddo drwy draddodiad llafar, ac maent yn cynnwys storïau swynol lle caiff pobl eu troi’n anifeiliaid, a lle mae cariad yn troedio’n agos at farwolaeth a thrasiedi.

Caiff agweddau ar symlrwydd a bywyd cartref eu cyfleu drwy frodwaith a thecstilau, ac mae iddynt briodweddau emosiynol yn deillio o atgofion am bobl a chysur. Yn ei gwaith mae Rhiannon yn sianelu storïau o’i bywyd hi i naratifau tecstil, gan chwarae ar themâu ac arddulliau’r cyfarwydd canoloesol. Mae ganddi ddiddordeb yn y cyswllt rhwng pobl ac anifeiliaid, a’r ffordd y cawn ni gysur yn eu cwmni. Yn aml, mae’n defnyddio anifeiliaid fel trosiadau ac fel ffordd o gynrychioli emosiynau. Gan ddefnyddio technegau brodwaith, mae Rhiannon yn pwytho storïau ei bywyd hi ei hun ynghyd, gan bortreadu llonyddwch emosiwn mewn ennyd mewn amser.

Mae Rhiannon yn brodio â pheiriant gwnïo Gwyddelig llaw rydd, techneg arbenigol gyda pheiriant y rhoddwyd y gorau i’w gynhyrchu yn y 1950au; aeth ati i ddatblygu’r sgìl hon yn ystod ei MA yn y Coleg Celf Brenhinol lle graddiodd yn 2014.

 

Ganwyd Rhiannon yng Nghaerdydd, a mynychodd ysgol Gymraeg yn Llantrisant lle cafodd ei throchi yn niwylliant Cymru, gan ganu yn y côr lleol a chystadlu yn yr Eisteddfod flynyddol. Mae hi’n cofio’r cyffro o glywed straeon am yr arwres o’r un enw â hi, Rhiannon, duwies y ceffylau, yn chwedlau’r Mabinogi. Collodd yr iaith Gymraeg pan symudodd ei theulu i swydd Henffordd, lle mae hi’n byw ar hyn o bryd.

Graddiodd Rhiannon o Goleg Prifysgol Falmouth yn 2011 gyda gradd BA (Anrhydedd) dosbarth cyntaf mewn Tecstilau ac yn 2014 gyda gradd MA mewn Tecstilau o’r Coleg Celf Brenhinol. Yn 2011 derbyniodd wobr Texprint a roddir i’r 24 myfyriwr graddedig gorau mewn tecstilau yn y DU, ac arddangosodd ei gwaith ym Mharis fel rhan o Première Vision. Ers hynny bu’n gweithio mewn stiwdios ffasiwn yn Llundain, Efrog Newydd a Stockholm fel dylunydd tecstilau, lle datblygodd ei hoffter o batrwm ac addurniadau. Yn 2014 dyfarnwyd Ysgoloriaeth y ‘Worshipful Company of Needlemakers’ i Rhiannon.

Yn 2015 cafodd ei chomisiynu gan Gyngor Hampshire i lunio brodwaith ar raddfa fawr i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf, a gaiff ei arddangos yn barhaol yn Neuadd y Dref, Whitchurch. Mae’r arddangosiadau diweddar eraill yn cynnwys Made By Hand, Neuadd y Ddinas Caerdydd 2016, Act Up World Aids Day, Hackney Picturehouse (ar y cyd â Faye Oakenfull) 2014, Portal, Llantarnam Grange, 2014,

Show, RCA Battersea 2014, New Visuality, According to McGee, Efrog 2011

Soft Target, 2009

Edau sidan cid Haze

Un mewn cyfres o 13 targed pom pom wedi’u saernïo â llaw.

“Mae chwarae ar eiriau ac iaith wedi dylanwadu ar waith a’i ysbrydoli’n aml, fel y mae’r dewis o ddefnyddiau, sut i’w trawsnewid a’u lleoli er mwyn tynnu ystyr ohonynt. Chwarae ar eiriau yw ‘Soft Target’ sy’n cydnabod cerfluniau meddal Claus Oldenburg. Mae’r pompom yn un o’r gwrthrychau crefft isel cyntaf  y mae plant yn dysgu’u gwneud. Mae ‘Soft Target’ yn cynnig sylw ar bobl fregus, plant yn arbennig, yn ystod ymosodiad milwrol neu derfysgol.”

 

In Another Light

Memrwn croen dafad, aur gwyn, monoffilament

“Gwaith yn ymwneud â chof, amser a newid diarwybod ond diatal yw hwn. Mae’r tyllau wedi’u serio ar femrwn croen dafad euraid cyn cael eu torri allan a’u rhoi ar fonoffilament i greu màs cain o sylwedd sydd bron iawn yn anghyffwrdd. Ni all twll fodoli heb y defnydd sy’n ei fframio, ac mae a wnelo’r gwaith gymaint ag absenoldeb â phresenoldeb. Mae amser yn allweddol, wrth greu’r gwaith, ond hefyd, bydd yr aur gwyn yn llychwino a newid yn araf a chynnil dros amser. Dyma’r ail mewn cyfres o weithiau, sydd gyda’i gilydd yn dwyn y teitl ‘Nothing is Something’. Mae’r gweithiau’n fynegiant o ddarnio ac o funudau gwahanol unedig sy’n adlewyrchu’r cyflwr dynol i raddau, yn ogystal â chonsyrn yr artist â’r ffaith ei bod ‘yn amhosibl i bethau aros yr un fath.”

 

Ganwyd Philippa Lawrence yn Louth, Swydd Lincoln. Graddiodd o Ysgol Gelf Norwich gyda Gradd Dosbarth Cyntaf (anrhydedd) mewn Celfyddyd Gain yn 1990. Ar ôl graddio treuliodd gyfnod preswyl yn Ysgol Gresham’s, Holt i ariannu ei gradd MA mewn Gwneud Printiau yn y Coleg Celf Brenhinol (1991-1993). Mae hi’n Brif Ddarlithydd ym maes ‘Artist, Dylunydd: Gwneuthurwr’ yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae hi’n byw ac yn gweithio ym Mryste ac mae ganddi stiwdio yn Spike Island.

Mae ei gwaith yn amrywiol ac yn cwmpasu celfyddyd y tir a’r amgylchedd, defnyddio tecstilau yng nghyd-destun celfyddyd gain, a’r berthynas rhwng celf, crefft a dylunio.  Ers 2003 mae ei gwaith wedi bod yn ymateb i safleoedd yn bennaf, gan ymdrin â materion yn ymwneud â pherthynas pobl â thir, natur a lle. Mae’r materion yn ymwneud â’r canlynol: ffiniau, defnydd tir, perchenogaeth tir, pryder cynyddol dros gyfyngiadau a osodir, a thresmasu ar fannau agored y ddynoliaeth – y cyhoeddus a’r daearyddol, a’r preifat a’r seicolegol. Mae deunyddiau a phroses yr un mor bwysig iddi ag ystyriaeth o’r safleoedd lluosog yr ydym yn eu meddiannu.

Mae ei gwaith yn troi o amgylch archwilio deunyddiau, gan dynnu ar allu deunydd i fod yn drosiadol ac i siarad am brofiad dynol, a gosod elfennau mewn modd sydd o gymorth i gael dealltwriaeth o safle ac ail-ysgogi gofod. Cafodd Philippa ei hyfforddi mewn Gwneud Printiau Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf Norwich ac yn y Coleg Celf Brenhinol ac mae hi’n parhau i ymddiddori yn yr iaith o wneud, yn y lluosog ac mewn proses.

Mae Philippa yn gweithio ar brosiectau penodol i safle, gwaith comisiwn ac arddangosfeydd. Mae hi wedi arddangos ei gwaith yn eang yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys yr Amerig, Japan, Y Weriniaeth Tsiec, Canada, Gwlad yr Iâ ac Awstralia. Ymhlith ei harddangosfeydd arwyddocaol y mae ‘Angles of Incidence’ drwy AiRx a’r British Council, yng Ngerddi Botaneg Singapore ac yn yr Inner Temple, Llundain (2014), ‘Encounters at the Edge of the Forest’, (2014) Chicago, Unol Daleithiau America, ‘Cloth & Memory {2} (2013) Salts Mill, Saltaire, ‘Bite-Size’ yn yr Daiwa Anglo Foundation a thaith wedi hynny i Japan (2012) a chomisiynau ar gyfer Waddesdon Manor (2013-4), ‘Darning the Land: Seam’ yn Church Gresley, Swydd Derby (2011) ar gyfer re:place, ‘Bound V-57’ ar gyfer ‘Nature Unframed’ ym Morton Arboretum, Lisle, Unol Daleithiau America (2011) ac ar gyfer Meadow Art Gallery ‘Barcode FB:814’, (2011) a ‘Tell it to the Trees’ yng Nghastell Croft, Swydd Henffordd (2009-10).

Mae’r gwobrau diweddar a roddwyd i’r artist yn cynnwys Cyllid Sbarduno Prifysgol Metropolitan Caerdydd (2015) i archwilio crefftau dan fygythiad a chyllid Rhaglen Cyd-ddealltwriaeth Strategol CCAUC (2011) i weithio gyda Waddesdon Manor.

Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio ar gyfres o brosiectau ar gyfer Hestercombe House, Taunton.

 

Dydd Sadwrn 7 Hydref 2017, 1 -4pm

Ymunwch â’r darlithydd, ymchwilydd a gwneuthurwr Angela Maddock am weithdy ymarferol a ysbrydolwyd gan brosesau a darganfyddiadau ei chyfnod preswyl yng Nghyfadran Nyrsio a Bydwreigiaeth Florence Nightingale yng Ngholeg y Brenin, Llundain.

Anogir cyfranogwyr i ddod â rhywbeth wedi gwau neu gwehyddu sydd wedi tyllu neu’n dreuliedig ar gyfer atgyweirio. Byddwch yn dysgu dau ddull o drwsio gweladwy – gwehyddiad a creithio o’r Swistir a thrwy drafodaeth a gwneud, yn archwilio gweithredoedd o adfywio ac atgyweirio, o wneud yn dda, ond nid bob amser yn berffaith.

Cost: £ 25 yn cynnwys deunyddiau a dewch â rhywbeth i drwsio

Addas ar gyfer oed16+

Dydd Sadwrn 7 Hydref 2017, 11am

Mae gwaith yr ymchwilydd a gwneuthurwr Angela Maddock yn dathlu’r cyffyrddadwy ac yn archwilio priodweddau, nodweddion a thensiynau o agosatrwydd emosiynol a chorfforol.
Mae Maddock yn ymchwilydd PHD drwy ymarfer yn ‘Ysgol Deunydd’ y Coleg Celf Brenhinol, lle mae hi hefyd yn diwtor gwadd mewn tecstilau. Fel gwneuthurwr preswyl 2016-17 yng Nghyfadran Nyrsio a Bydwreigiaeth Florence Nightingale yng Ngholeg y Brenin, Llundain bu hi’n archwilio’r cysylltiadau rhwng arferion a sgiliau clinigol a dulliau gwneud sy’n gysylltiedig â thecstilau.

 

Mynediad am ddim

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Sgwrs yn yr oriel gan Lucille Junkere

Dydd Gwener 18 Awst 2017, 7pm

Mae Lucille Junkere yn dychwelyd i’r oriel i siarad am ei thaith lliwio indigo ers ei chyfnod preswyl yn y William Morris Gallery. Yn ddiweddar teithiodd i Nigeria trwy Gymrodoriaeth Winston Churchill lle bu’n astudio technegau lliwio indigo ymysg crefftwyr Yoruba. Àdíre yw’r gair Yoruba ar gyfer y brethyn sydd yn cael ei liwio gan broses lliwio ‘gwrthsefyll’ ac sydd yn cael ei wneud mewn trefi Yoruba yn Nigeria. Mae’r tecstil yn gweithredu fel mynegiant esthetig ac yn fodd o gyfathrebu, gan gynnig golwg ddwfn ar grefydd, diwylliant, llên gwerin a hanes y bobl Yoruba. Bydd ei sgwrs yn cynnwys fideos byr, ffotograffiaeth, cerddoriaeth a gwaith indigo gan Lucille ei hun.

Mynediad am ddim

 

Llygad y ffynnon (The source), 2011

Inc ac edafedd ar blastig (detail)

“Fy ngreddf i erioed oedd cofleidio’r traddodiad peintio a’r traddodiad brodwaith heb orfod cydymffurfio â’r naill na’r llall. Mae’r maes hwn o’m dewis i yn rhoi ymdeimlad aruthrol o ryddid imi. Er bod y weithred o luniadu yn ganolog i’m gwaith, rwy’n ymhyfrydu yn harddwch crai fy holl ddefnyddiau – boed nhw’n frethyn, edau, paent, papur neu blastig.

Mae’r gweithiau diweddar ar blastig yn fy herio yn nhermau graddfa, techneg a chynnwys emosiynol. Rwy’n mwynhau’r ymdeimlad o theatr wrth weithio ar ddalenni o blastig wedi’u hincio. Mae’n broses hynod gorfforol ac ystumiol – yn ymwneud wastad â chydbwysedd a rhythm a gwneud nodau mewn ffordd lawn mynegiant. Math o goreograffi a chreu map personol sy’n dathlu tirwedd, iaith a benywdod.

Mae hon yn dirwedd â haenau o negeseuon amwys, lle â’i ymyl neilltuol ei hun…”

 

Ganwyd Eleri Mills yng Nghanolbarth Cymru ac enillodd ei gradd BA yng Ngholeg Polytechnig Manceinion yn 1977.  Yn 2000, cafodd ei dewis yn Aelod Etholedig o’r Royal Cambrian Academy a chafodd ei derbyn ar gyfer gwisg wen yr Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2004.  Hi oedd enillydd Dyfarniad Cymru Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru yn 2010/11.

Mae Eleri Mills wedi arddangos ei gwaith mewn sawl man ledled Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol ac mae ei gwaith i’w weld yn Thackeray Gallery yn Llundain ac yn Martin Tinney Gallery yng Nghaerdydd.

Mae arddangosfeydd arwyddocaol Eleri’n cynnwys: Arddangosfa ‘Window on Wales’, Canolfan Grefftau Rhuthun 2013; Macy Art Gallery, Efrog Newydd 2012; Art of the Stitch (taith Birmingham, Krefeld a Budapest) 2008; Gŵyl Ryng-Geltaidd ‘Meaning of the land’, Lorient, Ffrainc (gan gynrychioli Cymru) 2002; Scottish Gallery, Caeredin 2001; Piel de Seda Embroidered Bookbindings Museo Nacional de Artes Decorativas, Madrid 1998; Museu Textil i d’Indumentaria, taith Barcelona (Wales in Catalonia Festival) a’r Deyrnas Unedig 1995; British Needlework National Museum of Modern Art, Kyoto a Tokyo, Japan 1982.

Mae ei gwaith yn rhan o nifer o gasgliadau sy’n cynnwys: Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru, Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban, Caeredin ac Oriel Gelf Whitworth, Prifysgol Manceinion.
Mae gwaith Eleri hefyd wedi bod yn rhan o SOFA Sculpture, Objects and Functional Art fair yn Efrog Newydd a Chicago a Collect Craft Fair yn Oriel Saatchi, Llundain.

Roedd hi’n artist preswyl yn Sanskriti Kendra, Dehi, a thaith ymchwil i India gyda chefnogaeth gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru yn 2016 a Teachers College, Prifysgol Columbia, Efrog Newydd yn 2012.

 

Ffotograffydd: Toril Brancher

Alter Ego 1, 2015

Ffotograff, yn gwisgo balaclafa wedi’i grosio â llaw

“Dysgodd mam-gu fi i grosio pan oeddwn yn blentyn yn ystod yr hafau poeth hir ar beithiau Canada. Mae crosio’n rhywbeth rydw i wedi’i fwynhau erioed ond rwy wedi’i gadw ar wahân i’m gwaith celf; roedd yn ffordd o ymlacio, gwneud anrhegion i ffrindiau ond yn bendant ddim yn ‘Gelf’.

Er bod rhai’n gwadu ei bod yn dal i fodoli, mae yna hierarchaeth yn y byd celf o hyd; mae prosesau crefft yn cael eu hystyried yn is na disgyblaethau fel fideo neu gerflunio. Ac mae hyn yn ymestyn hyd yn oed ymhellach; ymysg y crefftau wedyn, mae tecstilau’n un o’r rhai sy’n cael y lleiaf o fri. Mae tecstilau’n ‘fenywaidd’, yn aml yn cael eu gwneud gan fenywod, ac yn rhan o’r byd domestig. Mae llawr o artistiaid yn defnyddio defnyddiau crefft ac yn cynhyrchu celf sy’n haeddu (ac weithiau’n cael) cydnabyddiaeth, ond nid yw hynny’n golygu nad yw’r drafodaeth hon yn berthnasol mwyach. Mae rhagfarn yn erbyn yr hyn sy’n ‘fenywaidd’ yn dal yn hollbresennol a chaiff ei defnyddio i wfftio’r gweithiau celf hyn. Nid yw tanseilio crefft yn ddim ond ffordd arall eto o ddal i wthio menywod i gyrion y byd celf.

Yn fy ngwaith i, rwy’n trin defnyddiau domestig. Rwy’n trawsnewid defnyddiau rhad, hawdd eu cael (tecstilau’n aml) yn berfformiad, cerfluniau a gosodiadau. Rwy’n dangos fy ngwaith celf mewn orielau crefftau ac orielau celf; caf fy ngalw’n artist ac yn wneuthurwr. Fodd bynnag, wrth asesu fy ngwaith gwpl o flynyddoedd yn ôl, sylwais ar rwystredigaeth; teimlad fod angen imi wanhau fy nghysylltiadau crefft er mwyn gallu manteisio mwy ar fyd celf. Er syndod, efallai, penderfynais wneud yn fawr o sgìl yr oeddwn wedi’i guddio hyd hynny – crosio.

Ffotograff yw Alter Ego I ohonof fi’n gwisgo balaclafa wedi’i grosio. Yn ymgorffori crefft, tecstilau a safbwynt benywaidd, mae’n crynhoi fy ngwaith. Mae hefyd yn fwgwd ymladd, i roi imi’r dewrder i siarad o blaid y rhinweddau hyn yn erbyn hierarchaeth ddi-sail.”

 

Artist Cymreig-Ganadaidd yw Alana Tyson. Fe’i ganed yn Nghanada a graddiodd o’r Alberta College of Art and Design yn 2006 gyda BFA (Anrh) mewn Paentio.  Mudodd i’r DU yn 2007 ac mae’n byw ar hyn o bryd yng Ngogledd Cymru.

Ymhlith arddangosfeydd diweddar pwysig Alana Tyson mae Crafting Anatomies: Materials, Performance, Identity, Bonington Gallery, Nottingham (2015); Decision Time, Dundee Contemporary Arts, Dundee (2014); Scythia 10 International Textiles Biennale, Kherson Ukraine (2014); Shades by the Seaside, Bathing Machine Intervention, Gyl Llawn02, Llandudno (2014), Power in the Land sef prosiect sy’n ymateb i ddadgomisiynu yr atomfa niwclear olaf yng Nghymru, fydd yn teithio’r DU (2016/17).  Fe’i cefnogir gan Mark Devereux Projects.

Derbyniodd Tyson Ysgoloriaeth Goffaol Ignac a Karla Herskovic (2006), ac mae wedi derbyn cefnogaeth gan yr Alberta Foundation for The Arts (2006), Bwrsariaeth Artist (2013), a chan Gyngor Celfyddydau Cymru (2013, 2014/15).  Yn 2015 bu’n artist preswyl yng Nghanolfan Gelf Rhuthun yng Nghymru ac ym Mhrifysgol y Celfyddydau Creadigol yn Lloegr.

 

Llun: Trwy garedigrwydd yr artist

Dydd Iau 12 Hydref 2017, 6-7.30

Siri Hustvedt:The Summer Without Men

Ochr yn ochr ag arddangosfa Oriel Myrddin sef Edefyn Tywyllach // A Darker Thread, byddwn yn darllen gwaith Siri Hustvedt sef The Summer Without Men, a ddewiswyd ar ein cyfer gan Laura Thomas, curadur yr arddangosfa. Dyma stori sy’n dechrau gyda phriodas sigledig 30 mlynedd o hyd ac ymhlith y cymeriadau y mae Abigail, sy’n brodio ac yn addurno gweithiau crefft gydag isleisiau tanseiliol…

‘A rich and intelligent meditation on female identity, written in beguiling lyrical prose…heady and intoxicating.’ Lucy Scholes, Sunday Times

‘It’s an astoundingly joyful read…a book that shines with intellectual curiosity and emotional integrity…every page reminds us that, as Mia’s doctor tells her, “tolerating cracks is part of being alive.’” Justine Jordon, The Guardian

Ymunwch â ni am drafodaeth gyfeillgar a arweinir gan Kirsten Hinks Knight. Mynediad am ddim gan gynnwys te a chacen .

Prosiectau Oddi ar y Safle

O gwmpas y lle

Digwyddiadau Arbennig

Y Darlun Mawr: Gwehyddu Enfawr!

Register for updates